Pa help sydd ar gael am anghytuno?

Dyma rai ffyrdd i'ch helpu i ddelio gyda gwrthdaro:

  • Siaradwch gyda chwnsler. Gofynnwch i'ch meddyg teulu os gallant eich rhoi mewn cysylltiad ag un yn eich ardal.
  • Gall cyflafareddu eich helpu i ddod i gytundeb am unrhyw faterion ymarferol fel ble bydd y plant yn byw, cyswllt, arian neu eiddo. Defnyddiwch sesiwn cyfryngu i siarad yn agored ac yn onest am unrhyw faterion dadleuol a chyrraedd penderfyniad ar y cyd am y pethau sy'n effeithio arnoch chi a'ch plant.

Beth i'w wneud nesaf

  • Penderfynwch beth sy'n achosi'r gwrthdaro; Os yw'n deillio o boen emosiynol, yna deliwch gyda hynny gyntaf, efallai drwy siarad gyda chwnsler.
  • Os yw'r gwrthdaro'n deillio o anghytundebau dros faterion ymarferol, cymerwch gamau positif i'w datrys - gall gwasanaeth cyflafareddu eich helpu gyda hyn.
  • Cytunwch gyda'r rhiant arall na fydd eich plentyn yn dyst i unrhyw wrthdaro rhwng y ddau ohonoch.

Stori Trisha

"Roeddem yn dadlau fel ci a chath nes i mi ddod ar draws Lewis yn llefain yn ei ystafell wely ar ôl i mi gael ffrae gyda'i dad. Daethom i'r canlyniad ein bod yn dadlau yn bennaf am weld y plant a'r ffaith nad oedd Alan yn talu unrhyw beth at eu cadw. Er ein bod yn dal i gecru rydym wedi datrys yr arian ac mae Alan yn gweld y plant yn rheolaidd. Mae'r plant yn hapusach o lawer."
Trisha, mam

Taflen am Eich lles emosiynol

Eich lles emosiynol [PDF 616KB] PDF

Emotional wellbeing leaflet cover

Cyrff defnyddiol eraill

Centre for separated families

Y ganolfan i Deuluoedd ar Wahn yn rhoi cyngor a chymorth i rieni ac i bobl eraill syn rhan o deulu syn gwahanu.

Families Need Fathers

Maent yn rhoi gwybodaeth i rieni ac yn cynnal cyfarfodydd agored yn lleol.

Gingerbread

Gwybodaeth i rieni unigol am bethau fel cynhaliaeth, credydau treth, budd-daliadau, gwaith, addysg, hawliau cyfreithiol, gofal plant a gwyliau.

ParentlinePlus

Mae yn rhoi cyngor a chymorth i unrhyw un syn magu plentyn, gan gynnwys llys rieni a neiniau a theidiau.