Nid yw'r profiad o wahanu oddi wrth bartner yr un fath i bawb. Bydd yn cymryd amser i ddelio gydar emosiynau o wahanu ond yn aml, gydag amser, mae pethau'n gwella. Gall deall rhai o'ch teimladau wneud y broses o wahanu yn haws.
Gwahanol gamau, sut gallech deimlo a pham
Ar ôl i deulu wahanu mae llawer o bobl yn mynd trwy gamau emosiynol tebyg. Y camau yw:
- braw a syndod
- gwrthod derbyn y sefyllfa
- ofn, anniddigrwydd a dicter
- iselder
- derbyn y sefyllfa
Bydd yr amser a gymerir i fynd o un cam i'r nesaf a sut byddwch yn teimlo wrth i hyn ddigwydd yn amrywio. Weithiau gallech deimlo fel eich bod wedi cymryd cam yn ôl, ond mae hynny'n gwbl arferol ac mi fydd yn newid.
Os byddwch yn gwybod ar ba gam rydych chi yn emosiynol, byddwch yn deall pam eich bod yn teimlo fel yr ydych a gall fod yn help i ddod o hyd i'r ffordd orau o ddelio gydar newidiadau. Hefyd, mae'n bwysig eich bod yn parhau'n sefydlog yn emosiynol gan fod plentyn dan sylw.

