Sut gallaf gynnal fy mhlentyn yn emosiynol?

Rhaid i chi wneud popeth yn eich gallu i helpu eich plentyn i ddelio gyda'u hemosiynau o ganlyniad i'r ffaith bod eu mam neu dad yn byw ar wahân iddynt erbyn hyn. Rhaid i chi wneud iddynt deimlo'n ddiogel yn y tymor byr a'r tymor hir.

Dyma rai o'r ffyrdd gallech gynnal eich plentyn yn emosiynol:

  • Eglurwch ich plentyn nad ydynt yn gyfrifol am y ffaith eich bod wedi gwahanu neu am fod y rhieni'n byw ar wahân.
  • Gwrandewch ar farn eich plentyn am eu teimladau, hyd yn oed os yw hynny'n eich gwneud yn anhapus.
  • Os yw'ch plentyn yn rhy ifanc i fynegi sut maent yn teimlo mewn geiriau, yna gofynnwch iddynt wneud llun i ddangos sut maent yn teimlo.
  • Dylech gydnabod eu bod yn anhapus yn hytrach na cheisio anwybyddu hynny neu wneud iddynt deimlo'n ddibwys.
  • Rhowch ddigon o amser iddynt ddelio gydar sefyllfa.
  • Gwnewch yn siŵr nad yw eich plentyn yn gorfod gofalu am eich anghenion emosiynol chi.

Taflen am Eich lles emosiynol

Eich lles emosiynol [PDF 616KB] PDF

Emotional wellbeing leaflet cover

Cyrff defnyddiol eraill

Centre for separated families

Y ganolfan i Deuluoedd ar Wahn yn rhoi cyngor a chymorth i rieni ac i bobl eraill syn rhan o deulu syn gwahanu.

Families Need Fathers

Maent yn rhoi gwybodaeth i rieni ac yn cynnal cyfarfodydd agored yn lleol.

Gingerbread

Gwybodaeth i rieni unigol am bethau fel cynhaliaeth, credydau treth, budd-daliadau, gwaith, addysg, hawliau cyfreithiol, gofal plant a gwyliau.

ParentlinePlus

Mae yn rhoi cyngor a chymorth i unrhyw un syn magu plentyn, gan gynnwys llys rieni a neiniau a theidiau.