Iselder
Iselder yw teimlad o dristwch parhaol a theimladau na allwch wneud dim amdanynt. Mae'n gyflwr meddygol a
gall effeithio ar bopeth o'ch chwant am fwyd i sut rydych yn cysgu. Gall hefyd effeithio ar sut rydych yn
teimlo amdanoch chi eich hunan a'r byd o'ch cwmpas.
Mewn achosion eithriadol, gall arwain at wneud i berson fod eisiau gwneud niwed i'w hunan.
Beth sy'n achosi iselder?
Yn aml mae newidiadau mawr mewn bywyd yn gysylltiedig ag iselder. Gall y ffaith bod eich perthynas â'r
rhiant arall neu'ch plentyn wedi dod i ben achosi iselder, yn ogystal â magu eich plant ar wahân.
Oes gen i iselder?
Defnyddiwch y rhestr yma i'ch helpu i benderfynu os ydych yn dioddef o iselder. Ydych chi:
- yn teimlo'n ddiwerth, diobaith neu'n euog?
- yn teimlo'n drist, yn groendenau neu'n bryderus yn aml?
- heb unrhyw ddiddordeb na phleser yn eich diddordebau arferol neu weithgareddau hamdden?
- wedi sylwi ar newid i'ch chwant am fwyd gan naill ai gynyddu neu golli pwysau'n sylweddol?
- wedi sylwi newid i'ch patrwm cysgu fel methu â chysgu, deffro'n fuan neu gysgu gormod?
- yn cael trafferth canolbwyntio?
- wedi meddwl am farwolaeth neu hunanladdiad o gwbl?
Unigrwydd?
Gall unigrwydd wneud i chi deimlo eich bod wedi torri i ffwrdd o'ch teulu, ffrindiau neu gydweithwyr. Efallai
y byddwch yn teimlo'n unig ar ôl gwahanu am eich bod yn ei chael yn anodd bod ymysg pobl eraill, neu am ei bod
yn anodd gweld ffrindiau oedd gennych ar y cyd gyda'ch cynbartner.
Os ydych wedi gorfod rhoi'r gorau i weithio o ganlyniad i wahanu, neu os ydych yn byw ar wahân i'r rhiant
arall, gallwch deimlo bod eich prif gyswllt â'r byd wedi diflannu.
Gall unigrwydd hefyd wneud i'r emosiynau rydych yn eu teimlo ymddangos yn fwy eithriadol ac fel arfer,
mae'n gysylltiedig ag iselder. Gallech fod mewn sefyllfa ble rydych yn ail fyw diwedd eich perthynas drosodd a
throsodd heb allu dod i delerau â'r peth.
Stori Paul
"Rhyw dri neu bedwar mis ar ôl gwahanu, aeth bob dim yn drech â fi - roedd fel disgyn i dwll
diwaelod. Roeddwn mor isel bu rhaid i mi ffonio'r Samariaid. Roedd fy meddyg teulu yn dda iawn a dywedodd fod
gennyf iselder a rhoddodd dabledi gwrth iselder i mi. Fe wnaethant wahaniaeth mawr. Gallaf gredu bod pethau yn mynd
i wella a bellach rydw i a'r plant yn cael amser gwell o lawer pan gyda'n gilydd, sydd yn beth da iawn."
Paul, tad