Delio gyda straen

Gallwch chi a'r rhiant arall fod yn dioddef gyda'r straen o wahanu neu o fod yn rhieni ar wahân. Gallwch deimlo ei bod yn fwy anodd i ddygymod gyda phethau arferol bob dydd.

Hefyd, gallech fod yn dioddef:

  • problemau canolbwyntio
  • problemau cysgu
  • teimlo'r angen i grio neu golli eich tymer
  • methu bwyta
  1. Straen a chynhaliaeth plant
  2. Peryglon i'ch iechyd
  3. Sut gallaf ddelio gyda straen
  4. Stori Vicky

Straen a chynhaliaeth plant

Os ydych o dan straen emosiynol, gallech ei chael yn anodd i feddwl yn glir am gynhaliaeth plant am ei fod yn eich gwneud i deimlo'n ddig neu'n bryderus. Gall y straen rydych yn ei deimlo eich rhwystro rhag trefnu cynhaliaeth plant a beth sydd orau i'ch plentyn. Gall olygu na allwch gydweithredu gyda'r rhiant arall.

Gweithio gyda'r rhiant arall

Ceisiwch gydweithio drwy ganolbwyntio ar beth sydd orau i'r plentyn a chreu perthynas newydd fel rhieni.

Cofiwch:

  1. Parhewch i gyfathrebu
  2. Dylech drin eich perthynas chi â'ch gilydd fel oedolion yn gwbl ar wahân i'ch trefniadau ar gyfer eich plentyn
  3. Mae eich plentyn yn dal i garu'r rhiant arall, hyd yn oed os nad ydych chi.

Peryglon i'ch iechyd

Gall y straen o fod yn rhieni ar wahân neu o wahanu'n ddiweddar effeithio ar eich iechyd meddwl. Gall arwain at ddibynnu mwy ar alcohol, sigarts neu gyffuriau eraill.

Peidiwch â dechrau'r arfer oddefnyddio alcohol neu gyffuriaui guddio sut rydych yn teimlo. Cofiwch werthfawrogi ac edrych ar ôl eich hunan - a cheisiwch gael help os bydd angen; mae sawl ffordd o daclo straen yn effeithiol.

Sut gallaf ddelio gyda straen?

  • Mae ymarfer corff rheolaidd yn helpu i leddfu straen.
  • Siaradwch gyda'ch teulu neu'ch ffrindiau, rhowch wybod iddynt sut rydych yn teimlo.
  • Ceisiwch gael cymaint o orffwys a chwsg ag y gallwch.
  • Ceisiwch gael help proffesiynol os bydd angen.

Am help i ddelio gyda straen neu bryderon am eich iechyd ffoniwch Galw Iechyd Cymru ar 0845 4647 (24 awr).

Gall rhai o'r cyrff yn einhadran cyrff defnyddioleich helpu gyda'ch teimladau.

Stori Vicky

"Roedd bob dim ar chwâl. Roedd yn ofnadwy. Roeddwn yn dechrau crio am ddim rheswm. Roedd fy meddyg yn dda iawn, ac awgrymodd y dylwn fynd am dro bob diwrnod. Roeddwn yn meddwl ei fod yn syniad hurt ond mae wedi gwneud gwahaniaeth. Rwy'n teimlo bod gennyf well rheolaeth ar y sefyllfa erbyn hyn."
Vicky, mam