Teimladau eich plentyn wrth i chi wahanu

Bydd yn haws i chi gynnal perthynas bositif a sefydlog gydach plentyn os gallwch ddeall sut maech plentyn yn teimlo.

Pan fydd rhieni yn byw ar wahâ neu pan fydd y teulu'n gwahanu, gall hyn fod yn amser anodd iawn i blant. Gallant deimlo:

  • yn ddryslyd
  • yn ofnus
  • yn drist
  • yn boenus
  • wedi eu gwrthod
  • yn siomedig
  • yn ddig
  • yn euog

Ceisiwch ddeall beth maech plentyn yn feddwl ac yn ei deimlo. Bydd hyn yn eich galluogi iw helpu i addasu ir newid a sicrhau na chaiff eu hanghenion eu hanwybyddu.

Stori Rajan

"Pan benderfynodd Aasia fod ein priodas ni drosodd, a mynd Sonika i fyw gyda hi yn nhŷ ei mam, roeddwn wedi fy mrifo ac wedi gwylltio. Roeddwn yn rhy ddigalon i allu gweld Sonika yn y dechrau. Sylweddolodd Aasia a minnau bod ein gwahanu ni wedi effeithio ar Sonika a gwnaeth hyn hin haws i ni roi ein teimladau ein hunain i un ochor. Nawr, mae Sonika yn treulio bob dydd Sul a nos Fercher gyda mi. Mae hynnyn gweithio i ni. Roedd delio gyda hynny hefyd yn golygu ein bod yn gallu trefnu cynhaliaeth; ni fydd Sonika yn dioddef oherwydd beth sydd wedi digwydd i ni."
Rajan, tad

Taflen am Eich lles emosiynol

Eich lles emosiynol [PDF 616KB] PDF

Emotional wellbeing leaflet cover

Cyrff defnyddiol eraill

Centre for separated families

Y ganolfan i Deuluoedd ar Wahn yn rhoi cyngor a chymorth i rieni ac i bobl eraill syn rhan o deulu syn gwahanu.

Families Need Fathers

Maent yn rhoi gwybodaeth i rieni ac yn cynnal cyfarfodydd agored yn lleol.

Gingerbread

Gwybodaeth i rieni unigol am bethau fel cynhaliaeth, credydau treth, budd-daliadau, gwaith, addysg, hawliau cyfreithiol, gofal plant a gwyliau.

ParentlinePlus

Mae yn rhoi cyngor a chymorth i unrhyw un syn magu plentyn, gan gynnwys llys rieni a neiniau a theidiau.