Sut byddaf yn gwybod os yw fy mhlentyn yn dioddef o straen neu boen meddwl?

Gall fod yn anodd adnabod yr arwyddion bod plant o dan straen emosiynol, a gall yr arwyddion amrywio yn dibynnu ar oedran y plant.

Babanod

  • Gall rhieni basio eu dicter neu iselder ymlaen i fabanod yn ystod adeg hanfodol yn eu prifiant.
  • Ceisiwch wneud yn siŵr fod eich babi yn cael digon o fwythau, eich bod yn gwenu arnynt ac yn cadw digon o gyswllt llygad.

Rhwng 2 a 5 oed

  • Gallai eich plentyn fod yn fwy tebygol o fod yn flin neu drist.
  • Gall bechgyn fod yn fwy anniddig, mynd iw cragen neu fod yn aflonyddgar. Gall genethod geisio ymddwyn mwy fel oedolion a cheisio cymryd gofal ou rhieni.
  • Cadwch olwg am unrhyw ymddygiad oedd wedi stopio gryn amser yn l, fel gwlychur gwely.

Rhwng 6 ac 8 oed

  • Gallant deimlo nad oes neb eu heisio nac yn eu caru. Efallai y gwnewch sylwi bod eu gwaith ysgol yn dirywio neu y byddwch yn clywed eu bod wedi bod yn aflonyddgar yn y dosbarth.
  • Yn aml bydd bechgyn yn gweld eisiau eu tadau mwy na genethod.

Rhwng 9 ac 11 oed

  • Yn aml iawn, byddant yn ddig, yn enwedig tuag at y rhiant maen nhwn credu syn gyfrifol am dorrir berthynas.
  • Yn aml, byddant yn ofnus ac yn awyddus i chi gymodi.
  • Gallech sylwi eu bod yn cwyno mwy o gur pen, salwch neu hunllefau.

Plant hŷn

  • Gallant fynd yn fwy annibynnol a chanolbwyntio ar faterion tu hwnt ir teulu tra bor rhieni yn meddwl am bethau eraill.
  • Gallant bellhau oddi wrth y teulu ac edrych am fwy o sicrwydd gan eu ffrindiau.

Os ydych yn poeni am iechyd eich plentyn cysylltwch gyda Galw Iechyd Cymru ar 0845 4647 (24 awr) neu siaradwch gydach meddyg teulu.

Taflen am Eich lles emosiynol

Taflen am Eich lles emosiynol [PDF 616KB] PDF

 Taflen am Eich lles emosiynol - clawr

Cyrff defnyddiol eraill

Centre for separated families

Y ganolfan i Deuluoedd ar Wahn yn rhoi cyngor a chymorth i rieni ac i bobl eraill syn rhan o deulu syn gwahanu.

Families Need Fathers

Maent yn rhoi gwybodaeth i rieni ac yn cynnal cyfarfodydd agored yn lleol.

Gingerbread

Gwybodaeth i rieni unigol am bethau fel cynhaliaeth, credydau treth, budd-daliadau, gwaith, addysg, hawliau cyfreithiol, gofal plant a gwyliau.

ParentlinePlus

Mae yn rhoi cyngor a chymorth i unrhyw un syn magu plentyn, gan gynnwys llys rieni a neiniau a theidiau.