Beth os na allwn gytuno?

Os na allwch gytuno ar drefniadau gydar rhiant arall, mae sawl opsiwn ar gael i chi.

  1. Cyflafareddu
  2. Gorchymyn llys
  3. Canolfannau cyswllt

Cyflafreddu (Mediation)

Mae cyflafareddu yn golygu bod person proffesiynol sydd wedi cael hyfforddiant arbennig yn siarad gyda chi ar rhiant arall, naill ai yn unigol neu gydach gilydd, er mwyn helpur ddau ohonoch i gytuno ar drefniadau.

Cysylltwch gyda National Family Mediation ar 01392 271610, neu yn yr Alban ewch at Relationships Scotland www.familymediationscotland.org.uk i gael mwy o wybodaeth.

Gorchymyn llys

Os nad yw cyflafreddu yn addas, neu os nad ywn gweithio, yna gallwch wneud cais am orchymyn llys. Caiff y rhan fwyaf o achosion syn ymwneud phlant eu datrys drwy gytundeb yn y camau cyntaf a gall hyn arbed llawer ar y costau cyfreithiol sydd eu hangen er mwyn cael gorchymyn llys. Efallai y gallech gael help ariannol drwy gymorth cyfreithiol.

Ffoniwch y llinell gymorth Cyngor Cyfreithiol Cymunedol ar 0845 345 4345 neu ffoniwch Law Society of Scotland ar 0131 226 7411 os ydych yn byw yn yr Alban.

Canolfannau cyswllt

Mae canolfannau cyswllt yn fannau ar wahn ir cartref teuluol ble gall rhieni ail-gydio a chadw cysylltiad gydau plant yn ystod ac ar l ir teulu wahanu.

Yn bennaf, yr NACCC (Sefydliad Cenedlaethol Canolfannau Cyswllt Plant) syn gyfrifol am ganolfannau cyswllt. Mae tua 270 o ganolfannau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon y gall rhieni eu defnyddio fel rhywle i ollwng, casglu a dychwelyd eu plant heb orfod gweld y rhiant arall.

Ffoniwch NACCC ar 0845 4500 280 i gael gwybod mwy.

Y Camau ymarferol nesaf

  • Cymerwch amser i ystyried eich teimladau.
  • Penderfynwch os oes angen help arnoch gan deulu a ffrindiau, neu gymorth proffesiynol.
  • Ceisiwch ddelio gyda straen gan osgoi alcohol a chyffuriau.
  • Canolbwyntiwch ar anghenion eich plentyn.
  • Gwnewch drefniadau cynhaliaeth plant er mwyn cynnal eich plentyn yn ariannol.