Chi â'ch plentyn

Os ydych yn riant sy'n byw i ffwrdd o'ch plentyn am ychydig o'r amser, efallai byddwch yn ystyried beth allwch chi ei wneud i aros yn rhan o'u bywyd.

Dangosir pan fo'r ddau riant yn cymryd rhan ymarferol ym mywyd y plentyn ar ôl gwahanu (cyhyd a bo'n ddiogel i wneud hyn), bod hynny'n cael effaith gadarnhaol ar les a datblygiad y plentyn.

Gall amgylchedd eich plentyn deimlo'n wahanol iawn os, yn sydyn, bydd un o'u rhieni ddim bellach yn rhan o'u bywydau o ddydd i ddydd. Ond, mae ffyrdd ar gael fel y gallwch gefnogi eich plentyn yn emosiynol.

Efallai byddant angen eu cysuro nad arnyn nhw mae'r bai nad ydych yn byw gyda'ch gilydd pellach. Atgoffwch hwy eich bod chi yna ar eu cyfer ac annogwch hwy i siarad am eu teimladau.

Os ydych yn byw gyda'ch plentyn neu beidio, mae pethau y gallwch eu gwneud i helpu hwy i deimlo'n fwy diogel. Ceisiwch gadw at eu harferion arferol. Byddwch yn ddibynadwy a chadwch hwy allan o unrhyw ddadleuon. Dangoswch iddynt eich bod yn iawn ac yn aros yn bositif.

Fel rhiant, gall y straen o wahanu neu fyw ar wahân ymyrryd ar wneud trefniadau i'ch plentyn. Ond, os gallech chi â'r rhiant arall ddod dros y teimladau hyn, byddwch mewn sefyllfa well i gadw at drefniadau cynhaliaeth plant addas.

Eich lles emosiynol [PDF 468KB] PDF am wybodaeth am yr holl agweddau ar fod yn rhiant ar ôl gwahanu neu tra byddwch yn byw ar wahân.

Taflen Eich lles emosiynol

Lawr-lwytho [PDF 468KB]

Lawr-lwytho

Cyrff defnyddiol

Canolfan ar gyfer teuluoedd wedi gwahanu

Yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth i rieni a phobl eraill sy'n ymwneud â theulu yn gwahanu.

Families Need Fathers

Yn darparu gwybodaeth i rieni a chyfarfodydd cefnogi lleol.

Gingerbread

Gwybodaeth i rieni unigol ar faterion gan gynnwys: cynhaliaeth, credydau treth, budd-daliadau, gwaith, addysg, hawliau cyfreithiol, gofal plant a gwyliau.

ParentlinePlus

Yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth i unrhyw un sy'n magu plant, gan gynnwys llys-rieni a neiniau a theidiau.