Mae gennych ddau brif opsiwn ar gyfer sefydlu trefniant cynhaliaeth plant. Cewch fwy o wybodaeth am bob un ac yna cymharu'r opsiynau.
Cytundeb preifat
Os gallwch chi a'r rhiant arall gytuno ar sut i ddarparu cynhaliaeth plant ar gyfer eich plentyn heb ddefnyddio'r llysoedd neu'r Asiantaeth Cynnal Plant (CSA) - gelwir hyn yn gytundeb preifat.
Trefniant drwy'r CSA
Os ydych yn teimlo na allwch weithio gyda'r rhiant arall i wneud cytundeb preifat am gynhaliaeth, gallwch ofyn i'r CSA wneud trefniant ar eich rhan. Gallant gasglu a gorfodi taliadau.
Yng Nghymru a Lloegr gall llys newid cytundeb preifat i Orchymyn Cydsynio sy'n gyfreithiol rhwym. Yn yr Alban gall cytundeb preifat gael ei gofrestru i'w wneud yn 'Gofnod o Gytundeb' sy'n gyfreithiol rhwym.
