Cytundeb teuluol ar gyfer cynhaliaeth plant

Mae cytundeb teuluol yn rhad ac am ddim i'w drefnu. Gall fod yn haws ac yn fwy cyflym i drefnu oherwydd nad oes rhaid i chi ddelio ag unrhyw set o reolau neu awdurdodau. Dim ond cytundeb rhwng dau berson yw. Dyma rai pethau fydd rhaid i chi feddwl amdanynt cyn penderfynu os mai dyma'r cytundeb gorau ar gyfer eich amgylchiadau.

Allwch chi weithio gyda'ch gilydd ac ymddiried yn eich gilydd?

  • Bydd rhaid i chi a'r rhiant arall fod yn onest gyda'ch gilydd am arian. Mae cynhaliaeth plant fel arfer yn cael ei thalu yn seiliedig ar incwm y rhiant nad yw'n brif ofalwr dyddiol i'r plentyn.
  • Bydd rhaid i chi allu gweithio gyda'ch gilydd a chytuno ar drefniadau cynhaliaeth plant i'ch plentyn.
  • Os gallwch chi a'r rhiant arall ddod o hyd i ffordd o weithio gyda'ch gilydd heb gynnwys unrhyw un arall yn eich trefniadau cynhaliaeth plant, gall fod yn well i'ch perthynas gyda'ch plentyn a'ch perthynas gyda'r rhiant arall.
  • A ydych yn teimlo y gallwch chi a'r rhiant arall weithio gyda'ch gilydd i addasu eich cytundeb os bydd amgylchiadau yn newid? Er enghraifft, efallai bydd y rhiant nad yw'n brif ofalwr dyddiol yn colli ei swydd neu fod un ohonoch yn cael plentyn gyda pherson arall.

Allwch chi gadw'r cytundeb i fynd?

  • Bydd yn cymryd ymrwymiad a pharodrwydd gan y ddau ohonoch i wneud i gytundeb teuluol weithio.
  • Pan fydd y ddau riant yn cytuno i rywbeth gyda'i gilydd, mae taliadau yn fwy tebygol o gael eu gwneud yn llawn ac ar amser. Ond, os oeddech wedi methu â chytuno ar gytundeb teuluol yn flaenorol, mae'n llai tebygol o weithio'r ail dro.
  • Dylech fod yn ymwybodol nad yw cytundebau teuluol yn gyfreithiol rhwym ac felly ni all taliadau dyledus gael eu casglu na chael eu gorfodi. Golyga hyn os na fydd y rhiant nad yw'n brif ofalwr dyddiol i'r plentyn yn talu, yna ni ellir eu gorfodi i dalu.

Ydych yn awyddus i reoli'r cytundeb eich hunan?

  • Gallwch ei gadw'n fater teuluol. Nid oes rhaid cynnwys unrhyw un arall.
  • Nid oes angen delio ag unrhyw awdurdod, felly ceir mwy o hyblygrwydd ynglŷn â sut a phryd y bydd taliadau cynhaliaeth plant yn cael eu gwneud. Mae gwneud trefniadau arbennig sydd yn adlewyrchu eich amgylchiadau penodol yn haws nag wrth fynd drwy'r CSA.

Beth fydd yn digwydd os bydd eich cytundeb teuluol yn methu?

  • Bydd rhaid i chi siarad gyda'ch gilydd. Efallai bod y rhiant nad yw'n brif ofalwr dyddiol wedi colli ei swydd, yn wael neu gyda rheswm arall am beidio â thalu.
  • Os mai chi yw'r rhiant gyda phrif ofal dyddiol, efallai eich bod wedi gwneud rhywbeth i achosi gofid i'r rhiant arall. Ceisiwch feddwl am rywbeth a allai fod wedi creu ymateb negyddol.
  • Os yw'r rhiant nad yw'n brif ofalwr dyddiol wedi colli ei swydd, dylech feddwl am ostwng y taliadau cynhaliaeth plant dros dro ac yna eu cynyddu pan fyddant yn ôl yn gweithio.
  • Neu gallwch ofyn i'r CSA wneud trefniadau cynhaliaeth plant ar eich cyfer.

Os credwch mai cytundeb teuluol fyddai'r opsiwn gorau i chi, darllenwch sut i wneud cytundeb teuluol.

Gallwch hefyd ddarllen mwy am gytundebau teuluol a chynhaliaeth plant yn ein hadran cwestiwn ac ateb.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Gofyn cwestiwn

Ffoniwch ar 0800 988 0988
Mae llinellau ar agor o 8 am i 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac o 9am i 4pm ar ddydd Sadwrn.
Neu, anfonwch e-bost atom