Defnyddio'r llysoedd i drefnu cynhaliaeth plant

Gorchmynion Cydsynio (math o orchymyn llys yng Nghymru a Lloegr)

Mae Gorchymyn Cydsynio yn ddyfarniad swyddogol a wnaed gan lys. I sefydlu Gorchymyn Cydsynio rhaid i'r ddau riant gytuno ar faint a pha mor aml bydd cynhaliaeth plant yn cael ei thalu.

Gallwch naill ai wneud hyn yn breifat rhwng eich gilydd neu drwy gyfreithwyr. Gallwch wedyn wneud cais i'r llys i newid eich cytundeb i Orchymyn Cydsynio. Mae hyn bron bob tro yn digwydd pan fydd pobl yn mynd i'r llys am resymau eraill, fel gweithio cytundeb ysgariad allan neu rannu asedau.

Ar âl hyn, os bydd y rhiant sydd ddim yn brif ofalwr dyddiol yn methu â thalu'r gynhaliaeth a gytunwyd arni yn y Gorchymyn Cydsynio, gall y llys orfodi taliad. Yn ystod y 12 mis cyntaf o Orchymyn Cydsynio, ni allwch ofyn i'r CSA wneud trefniant talu ar eich cyfer.

Dylech fod yn ymwybodol bod sefydlu Gorchymyn Cydsynio yn cynnwys costau cyfreithiol, fel costau cyfreithiwr a chostau llys. Ni fydd Cymorth Cyfreithiol yn cwmpasu'r costau hyn os ydych yn mynd i'r llys i gael Gorchymyn Cydsyniad am gynhaliaeth plant yn unig.

Cofnod o gytundeb (yn Yr Alban)

Mae pethau ychydig yn wahanol yr Yr Alban. Os gallwch wneud cytundeb teuluol gyda'r rhiant arall (fel arfer gyda help cyfreithiwr), gall cael ei newid i gontract a enwir yn 'Cofnod o Gytundeb'. Gall hyn gael ei gofrestru er mwyn ei wneud yn gyfreithiol rhwym. Os yw'r rhiant sydd ddim yn brif ofalwr dyddiol yn methu â thalu'r gynhaliaeth a gytunwyd arni yn y Cofnod o Gytundeb, gall swyddog y siryf (yn Yr Alban mae siryf yn gyfwerth i feili) gasglu a gorfodi taliadau.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Gofyn cwestiwn

Ffoniwch ar 0800 988 0988
Mae llinellau ar agor o 8 am i 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac o 9am i 4pm ar ddydd Sadwrn.
Neu, anfonwch e-bost atom