Nid yw'r CSA yn codi tâl am ei gwasanaethau ac mae'n anelu i sefydlu cytundeb cynhaliaeth plant o fewn 12 wythnos o'ch cais. Dyma rai pethau eraill y bydd rhaid i chi eu hystyried cyn penderfynu os mai trefniant cynhaliaeth plant drwy'r CSA yw'r dewis gorau i chi.
Ydych am osgoi cysylltiad gyda'r rhiant arall?
- Nid oes rhaid i chi fod mewn cysylltiad gyda'r rhiant arall na hyd yn oed wybod ble y maent yn byw gyda threfniant drwy'r CSA.
- Hyd yn oed os na fydd y rhiant nad yw'n brif ofalwr dyddiol yn cymryd cyfrifoldeb am y plentyn, gall y CSA eu holrhain a threfnu cytundeb cynhaliaeth plant.
A allech weithio gyda'ch gilydd ac ymddiried yn eich gilydd?
- Os yw'r rhiant nad yw'n brif ofalwr dyddiol i'r plentyn yn anfodlon i gydweithio neu rannu eu hincwm, gall y CSA gael y manylion hyn gan eu cyflogwr neu'r Llywodraeth.
- Fodd bynnag, gall eich perthynas chi gyda'r rhiant arall fod yn fwy anodd wrth i bethau fynd yn fwy cyfreithiol rhyngoch.
- Os gallwch chi a'r rhiant arall ddod o hyd i ffordd i gydweithio heb gynnwys unrhyw un arall, bydd yn haws i'ch plentyn ac yn well i'ch perthynas gyda'r rhiant arall.
A allwch fod angen cymorth i barhau gyda'r cytundeb?
- Os ydych wedi bod yn aflwyddiannus wrth wneud cytundeb teuluol yn y gorffennol, efallai bydd trefniant drwy ddefnyddio'r CSA yn ddewis gwell a mwy dibynadwy i chi.
- Mae trefniant drwy'r CSA yn gyfreithiol rhwym. Gall y CSA sicrhau y bydd y rhiant nad yw'n brif ofalwr dyddiol i'r plentyn yn cwrdd âu cyfrifoldebau ariannol.
- Os yw taliad wedi'i fethu, bydd y CSA yn cysylltu â'r rhiant nad yw'n brif ofalwr dyddiol a dweud wrthynt am dalu'r taliadau cynhaliaeth plant sydd arnynt.
A fydd gennych reolaeth dros eich trefniant?
- Unwaith y byddwch yn gofyn i'r CSA wneud trefniant cynhaliaeth plant, bydd yn rhaid i chi gadw at eu penderfyniad. Er enghraifft, faint o gynhaliaeth plant ddylai gael ei dalu a phryd.
- Ond, os ydych yn teimlo nad yw eich trefniant drwy'r CSA yn gweithio, gallwn eich helpu i wneud cytundeb teuluol.
Allai eich amgylchiadau newid yn y dyfodol
- Nid oes rhaid i chi drafod unrhyw beth gyda'r rhiant arall. Ond os gallwch, mae'n syniad da i gadw deialog am bethau a allai effeithio ar eich trefniant.
- Mae'n rhaid i chi ddiweddaru'r CSA os bydd eich amgylchiadau yn newid. Mae'r newidiadau
a all ddylanwadu ar gynhaliaeth plant yn cynnwys:
- incwm y rhiant nad yw'n brif ofalwr dyddiol i'r plentyn
- faint o blant sydd gennych chi neu'r rhiant arall i'w cynnal
- faint o nosweithiau'r wythnos mae'r plentyn yn eu treulio gyda'r ddau ohonoch.
- lle mae'r rhiant nad yw'n brif ofalwr dyddiol yn byw.
Os credwch mai'r dewis gorau i chi yw defnyddio'r CSA, darllenwch am sut i wneud trefniant drwy'r CSA.
Gallwch ddarllen mwy am gynhaliaeth plant a'ch opsiynau yn ein hadran Cwestiwn ac Ateb.
