Sefydlu trefniant cynhaliaeth CSA

Dyma'r camau y dylech eu cymryd os hoffech ddefnyddio'r CSA i sefydlu cytundeb.

Cam 1) Gwiriwch eich bod yn gymwys

Gall ceisiadau i'r CSA gael eu gwneud gan:

  • y rhiant neu berson sy'n brif ofalwr dyddiol y plentyn, neu
  • y rhiant nad yw'n brif ofalwr dyddiol y plentyn, neu
  • os yw'r plentyn o dan 16 (neu o dan 19, mewn rhai achosion)
  • plentyn cymwys* (yn yr Alban).

Gall person ofyn i'r CSA am drefniant cyn belled a bod:

  • y plentyn o dan 16 (neu 16-19 ac mewn addysg llawn amser (nad yw'n uwch na Safon Uwch neu safon gyfatebol), ac
  • mai'r person sy'n gofyn am gael cynhaliaeth plant yw prif ofalwr dyddiol y plentyn ac maent yn byw yn y DU, a
  • bod y person nad yw'n brif ofalwr o ddydd i ddydd yn byw yn y DU, neu'n gweithio i'r gwasanaeth sifil, y lluoedd arfog, neu i gwmni wedi'i lleoli yn y DU, ac
  • nid oes gorchymyn llys mewn grym cyn 2003, neu mae gorchymyn llys mewn grym ers ar ôl Ebrill 2003 ond roedd wedi ei sefydlu 12 mis neu fwy cyn y cais.

*Mae llawer o amodau. Am fwy o wybodaeth, gweler pwy allai wneud cais i'r CSA ar wefan y CSA.

Cam 2) Cysylltu â'r CSA

Gallwch gysylltu â'r CSA ar 08457 138 091 neu ymweld â gwefan y CSA yn.

Bydd y CSA yn gweithio allan faint o gynhaliaeth plant ddylai gael ei dalu. Mae'r CSA yn cyfrifo cynhaliaeth plant yn seiliedig ar incwm y rhiant nad yw'n brif ofalwr dyddiol i'r plentyn. Gallwch ddefnyddio ein cyfrifydd cynhaliaeth plant ar-lein i gael amcangyfrif o faint o gynhaliaeth plant allai fod yn daladwy drwy drefniant gyda'r CSA.

Gallwch ddarllen mwy am gynhaliaeth plant a'ch opsiynau yn ein hadran Cwestiwn ac Ateb.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Gofyn cwestiwn

Ffoniwch ar 0800 988 0988
Mae llinellau ar agor o 8 am i 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac o 9am i 4pm ar ddydd Sadwrn.
Neu, anfonwch e-bost atom