Cymorth ariannol rheolaidd a dibynadwy yw cynhaliaeth plant sy'n gallu helpu tuag at gostau byw'r plentyn o ddydd i ddydd. Bydd y rhiant nad yw'n gofalu am y plentyn o ddydd i ddydd yn talu cynhaliaeth plant i'r rhiant arall.
Gall cynhaliaeth plant wneud gwahaniaeth sylweddol i les plentyn ac ansawdd bywyd teulu.
Dylech wneud popeth ag y gallwch i sicrhau bod trefniant cynhaliaeth plant effeithiol mewn grym ar gyfer eich plentyn. Gallai fod yn un rydych a'r rhiant arall wedi cytuno arno eich hunain (cytundeb preifat), neu un y byddwch yn ei drefnu gyda help gan yr Asiantaeth Cynnal Plant (CSA) sef y gwasanaeth cynhaliaeth plant statudol.
Fel rhiant, mae gennych gyfrifoldeb i ddarparu'n ariannol am eich plentyn hyd yn oed oes ydych yn byw ar wahân iddynt a'r rhiant arall.
Os ydych yn dewis gwneud cytundeb preifat am gynhaliaeth plant, gallwch chi a'r rhiant arall ei drefnu mewn pwy bynnag ffordd sydd orau i'ch amgylchiadau.
Gyda chytundeb yn defnyddio'r CSA, mae cynhaliaeth plant yn cael ei thalu hyd nes bydd y plentyn yn cyrraedd 16 mlwydd oed, neu hyd nes byddant yn cyrraedd 19 mlwydd oed os ydynt mewn addysg llawn amser (nad yw'n uwch na safon uwch neu safon gyfatebol).
Fel arfer, bydd cynhaliaeth plant yn cael ei thalu pob wythnos, pob pythefnos neu bob mis. Seilir y taliad hwn fel arfer ar incwm y rhiant sydd heb y gofal o ddydd i ddydd.
Yn ogystal â'r taliadau cynhaliaeth plant rheolaidd hyn, gallwch hefyd ddewis gwneud taliadau "yn lle cynhaliaeth". Taliad a wneir "yn lle cynhaliaeth" yw taliad ble mae'r rhiant nad oes gan y prif ofal o ddydd i ddydd yn talu am bethau'n uniongyrchol, fel dillad, biliau neu gostau ysgol.
Rydym yma i'ch helpu i ddeall yr opsiynau sydd ar gael i chi i sefydlu trefniadau cynhaliaeth plant.
Darllenwch fwy am eich opsiynau ar gyfer trefnu cynhaliaeth plant.
Gallwch lawr-lwytho ein Canllaw ar ble i ddechrau [PDF 850KB]
i gael gwybodaeth am:
- yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer trefnu cynhaliaeth plant
- sut i ddechrau gwneud trefniant cynhaliaeth plant
- sut gallwch drin a thrafod gyda'r rhiant arall
- sut i weithio allan faint o gynhaliaeth plant gallwch ei dalu neu ei dderbyn
- camau ymarferol a chyrff defnyddiol a all eich helpu
Gallwch ddarllen mwy am gynhaliaeth plant a'ch opsiynau yn ein hadran Cwestiwn ac Ateb

