-
Ble gallaf gael help gydag agweddau ymarferol ac emosiynol ar fod yn rhiant sydd wedi gwahanu ac ar drefnu cynhaliaeth plant?
Rydym yn darparu taflenni gyda gwybodaeth am faterion bydd rhieni sy'n byw ar wahân neu yn gwahanu angen ymdrin â hwy yn aml. Rydym yn cynnig taflenni ar faterion cyfreithiol, lles emosiynol, eich cartref, trin arian a chyflogaeth. Gallwch lawr-lwytho'r rhain o'r adran pryderon cyffredin am wahanu o'r wefan hon. Gallwch hefyd ddarllen ein Canllaw ar ble i ddechrau [PDF 850KB]
trefnu
cynhaliaeth plant. Rydym hefyd yn cynnig rhestr o gyrff defnyddiol gallwch gysylltu â hwy am help arbennigol a
chyngor mewn meysydd fel cynghori am gyfryngu, a chyngor ar faterion iechyd a theuluol. -
Ble gallaf gael help gyda thrais teuluol?
Efallai byddwch am siarad gyda rhywun proffesiynol fel Cynghorydd neu arbennigwr mewn trais teuluol. Gallwch gael rhestr o gyrff defnyddiol yn yr adran am drais teuluol ar y wefan hon.
