Ynglŷn â threfniant gan ddefnyddio'r CSA

  • Pwy gall ofyn am drefniad gan ddefnyddio'r CSA?

    Gall y CSA derbyn ceisiadau gan:

    • y rhiant neu'r person sydd yn brif ofalwr dyddiol i'r plentyn
    • y rhiant nad yw'n brif ofalwr dyddiol i'r plentyn
    • plant sy'n gymwys* (yn Yr Alban).

    Gall unrhyw riant gofyn i'r CSA am drefniad cyhyd:

    • bod y plentyn o dan 16 (neu 16-19 ac mewn addysg llawn amser (nad sy'n uwch na Safon Uwch neu gyfwerth)), a
    • bod y person sy'n gofyn i gael y cynhaliaeth plant yn gyfrifol am brif ofal dyddiol y plentyn ac yn byw yn y DU, a
    • bod y rhiant sydd heb brif ofal dyddiol y plentyn yn byw yn y DU, neu'n gweithio i'r gwasanaeth sifil, y lluoedd arfog neu cwmni sy'n seiliedig yn y DU, a
    • nid oes orchymyn llys mewn lle ers cyn 2003, neu fod gorchymyn llys o ar ôl Ebrill 2003 ond cafodd ei sefydlu mwy na 12 mis cyn y cais.

    *Mae sawl amod.
       Am fwy o wybodaeth cysylltwch â'r pwy all wneud cais i'r CSA ar wefan y CSA.

    Top y dudalen
  • Sut gallaf drefnu cynhaliaeth plant drwy ddefyddio'r CSA?

    Darllenwch ein gwybodaeth am trefnu cynhaliaeth plant drwy ddefnyddio'r CSA a sut i sefydlu trefniant drwy ddefnyddio'r CSA.

    Top y dudalen
  • Pa mor hir mae'n ei gymryd i sefydlu trefniant trwy'r CSA?

    Mewn tua thri chwarter o achosion, mae'r CSA yn gwneud trefniant gyda'r rhiant nad yw'n brif ofalwr dyddiol i'r plentyn, o fewn 12 wythnos o dderbyn y cais. Targed y CSA am 2008/09 yw cynyddu hyn i dros 80% o achosion.

    Top y dudalen
  • Sut mae'r CSA yn cyfrifo cynhaliaeth plant?

    Gallwch weld beth mae'r CSA yn ei gymryd i ystyriaeth drwy edrych ar ein cyfrifydd cynhaliaeth plant. Mae ein cyfrifydd yn rhoi syniad i chi o'r swm o gynhaliaeth plant gallech orfod ei dalu neu ei gael os oedd gennych drefniant drwy'r CSA. Os hoffech fwy o wybodaeth am sut mae'r CSA yn cyfrifo cynhaliaeth plant, darllenwch ein Canllaw ar ble i ddechrau [PDF 850KB] PDF sydd yn rhoi gwybodaeth ar ffyrdd o drafod gyda'r rhiant arall. Hefyd, gallwch siarad neu gysylltwch â'r CSA.

    Top y dudalen
  • Beth os oes trefniant CSA gennyf ac fy mod eisiau newid i gytundeb teuluol?

    Os ydych am gau eich trefniant gyda'r CSA rhaid i chi gysylltu â'r CSA a dweud wrthynt eich bod am gau eich achos. Ond cyn i chi wneud hyn, gwnewch yn siwr eich bod chi a'r rhiant arall yn cytuno ar gytundeb teuluol am gynhaliaeth plant rhyngoch. Y peth pwysicaf yw bod trefniant ar waith i ddarparu cynhaliaeth plant ar gyfer eich plentyn.

    Top y dudalen
  • Sut gall y CSA orfodi taliadau os yw'r rhiant nad yw'n brif ofalwr dyddiol i'r plentyn yn stopio talu cynhaliaeth plant?

    Gall y CSA roi Gorchymyn Didynnu o Enillion (DEO) mewn lle, sydd yn golygu y gall y CSA ddweud wrth gyflogwr y rhiant nad yw'n brif ofalwr dyddiol i'r plentyn i ddidynnu arian o enillion y rhiant. Mae gan y CSA ystod o bwerau y gall eu defnyddio i orfodi taliadau. Gallwch ddod o hyd i fanylion am y rhain ar wefan y CSA .

    Top y dudalen
  • Beth sydd yn digwydd os yw'r rhiant nad yw'n brif ofalwr dyddiol i'r plentyn yn gorfod talu cynhaliaeth plant i fwy nag un rhiant sy'n brif ofalwr dyddiol i'r plentyn?

    Gall y CSA gyfrifo'r cyfanswm o gynhaliaeth plant y dylid ei dalu ar gyfer bob plentyn cysylltiedig. Bydd y cyfanswm hwnnw'n cael ei rannu rhwng y rhieni sy'n brif ofalwyr dyddiol i'r plant. Os oes gennych gytundeb teuluol gallwch hefyd weithio'r swm o gynhaliaeth allan yn y modd hwn. Mae'n syniad da i gofnodi manylion unrhyw gytundeb teuluol. Gallwch ddefnyddio ein ffurflen cytundeb teuluol i wneud hwn.

    Top y dudalen
  • Beth sydd yn digwydd os yw person yn gwadu eu bod yn rhiant i blentyn?

    Gallwch ofyn i'r CSA gymryd yr achos drosodd ar eich rhan. Bydd y CSA yn cysylltu â'r person a enwir fel rhiant y plentyn. Os yw'r person hwnnw'n gwadu eu bod yn rhiant i'r plentyn, bydd y CSA yn gofyn i'r ddau riant ddarparu tystiolaeth i gefnogi eu cais. Gall y CSA orchymyn prawf DNA, lle y bo'n briodol. Gallwch ddarllen mwy am wadu bod yn rhiant ar wefan y CSA.

    Top y dudalen