- Mae gennyf gytundeb neu drefniadau preifat, a yw hyn yr un fath a chytundeb teuluol?
- Sut mae cytundeb teuluol yn wahanol i drefniad statudol trwy'r CSA?
- Gyda chytundeb teuluol oes rhaid i mi gynnwys yr awdurdodau neu unrhyw un arall?
- Pa mor hir fydd cytundeb teuluol yn cymryd i'w trefnu?
- Ydy cytundeb teuluol yn cymryd manylion personol mewn i ystyriaeth?
- Sut gallaf ddechrau trafod cynhaliaeth gyda'r rhiant arall?
- Sut gallaf wybod beth sydd yn digwydd i'r arian cynhaliaeth plant rwyf yn ei dalu?
- Beth sydd yn digwydd os bydd y rhiant arall yn stopio talu trwy ein cytundeb teuluol?
- Sut gall newid yn ein amgylchiadau effeithio ar gynhaliaeth plant?
-
Mae gennyf gytundeb neu drefniadau preifat, a yw hyn yr un fath a chytundeb teuluol?
Ydy, maent yn union yr un fath. Mae'r holl enwau yma yn cyfeirio at unrhyw drefniadau neu gytundeb rydych chi wedi eu gwneud ar gyfer eich teulu heb fynd drwy'r CSA neu'r llysoedd.
-
Sut mae cytundeb teuluol yn wahanol i drefniadau statudol trwy'r CSA?
Mae cytundeb teuluol cynhaliaeth plant yn un ble rydych chi â'r rhiant arall yn cytuno ar sut y byddwch chi yn trefnu cynhaliaeth plant i'ch plentyn. Mae trefniant trwy'r CSA yn golygu bod y CSA yn sefydlu trefniant cynhaliaeth plant ar eich rhan. Gall hyn gael ei wneud heb gytundeb y naill riant.
Gallwch drefnu cytundeb teuluol heb gynnwys unrhyw un arall oni bai amdanoch chi â'r rhiant arall. Gyda threfniad trwy'r CSA, mae'r CSA yn gweithio i reolau penodedig a hwythau fydd yn dweud wrthych sut y bydd y trefniant yn gweithio.
Fel arfer, nid yw cytundeb teuluol yn un y gellir ei orfodi, tra bydd y CSA yn gallu gorfodi taliadau os bydd y rhiant nad yw'n brif ofalwr dyddiol i'r plentyn yn gwrthod talu cynhaliaeth plant neu yn atal eu taliadau.
Top y dudalen -
Gyda chytundeb teuluol oes rhaid i mi gynnwys yr awdurdodau neu unrhyw un arall?
Na. Os nad ydych eisiau, nid oes rhaid i chi gynnwys unrhyw un arall oni bai amdanoch chi â'r rhiant arall. Nid oes rhaid i chi ddangos eich cytundeb i unrhyw un arall. Nid yw'r CSA yn cynnwys ei hunan mewn unrhyw gytundeb teuluol. Ni allwch gofnodi eich cytundeb gydag unrhyw gorff oni fydd yn rhan o broses ysgaru. Os ydyw yn rhan o broses ysgaru, gallwch gofnodi cytundeb teuluol gyda llys fel rhan o beth elwir yn Gorchymyn Cydsynio.
Ond cofiwch, os mai chi yw'r rhiant gyda'r prif ofal dyddiol ac rydych yn cael budd-daliadau, rhaid i chi roi gwybod i'r Ganolfan Byd Gwaith os ydych yn cael cynhaliaeth trwy gytundeb teuluol.
Top y dudalen -
Pa mor hir fydd cytundeb teuluol yn cymryd i'w drefnu?
Eich dewis chi a'r rhiant arall yw pa mor gyflym gallwch wneud cytundeb teuluol. Unwaith y byddwch wedi casglu'r wybodaeth bydd rhaid i chi gyfrifo ffigwr ar gyfer cynhaliaeth plant, efallai byddwch yn gallu cytuno ar bopeth gyda'r rhiant arall o fewn un noson. Gallwch ddefnyddio ein cyfrifydd cynhaliaeth plant ar-lein i gael amcangyfrif o faint o gynhaliaeth plant y gallech ei dalu neu ei gael os bydd gennych drefniadau trwy'r CSA. Gallwch ddefnyddio hyn fel man cychwyn ar gyfer eich trafodaethau. Gallwch hefyd ddefnyddio ein ffurflen cytundeb teuluol i gofnodi manylion o'ch cytundeb teuluol.
Top y dudalen -
Ydy cytundeb teuluol yn cymryd manylion personol mewn i ystyriaeth?
Ydy. Gallwch drefnu cytundeb teuluol ar gyfer cynhaliaeth plant ym mha bynnag ffordd sy'n gweithio'n orau i chi a'r rhiant arall. Cyn i chi wneud cytundeb teuluol, efallai y byddwch am feddwl am unrhyw amgylchiadau allai newid yn y dyfodol ac effeithio ar eich cytundeb. Darllenwch ein tudalennau am sut i wneud cytundeb teuluol.
Top y dudalen -
Sut gallaf ddechrau trafod cynhaliaeth gyda'r rhiant arall?
Rydym yn darparu gwybodaeth am siarad â'r rhiant arall ynglŷn â chynhaliaeth plant. Gallwch hefyd lawr-lwytho ein Canllaw ar ble i ddechrau [PDF 850KB]
sydd yn rhoi gwybodaeth ar ffyrdd o
drafod gyda'r rhiant arall. Hefyd, gallwch siarad gyda mudiadau defnyddiol eraill. Cofiwch i gadw mewn cof trwy'r amser eich bod yn cydweithio
er lles eich plentyn. Y peth pwysicaf yw eich bod yn dod i gytundeb y gallwch chi a'r rhiant arall gadw ato.Os nad ydych yn teimlo bod unrhyw gyfle i chi a'r rhiant arall ddod i gytundeb rhwng eich gilydd, gallwch gysylltu gyda'r CSA a gallant hwy sefydlu trefniant ar eich rhan.
Top y dudalen -
Sut gallaf wybod beth sydd yn digwydd i'r arian cynhaliaeth plant rwyf yn ei dalu?
Os byddwch yn trefnu cynhaliaeth plant yn breifat neu drwy'r CSA, gallech drafod gyda'r rhiant arall y math o bethau bydd yr arian yn cael ei wario arnynt. Ond gyda'r naill drefniant, ni allwch reoli sut mae'r arian yn cael ei wario gan y rhiant sy'n brif ofalwr dyddiol i'r plentyn. Os oes gennych gytundeb teuluol, mae angen lefel o ymddiriedolaeth rhyngoch chi a'r rhiant arall.
Top y dudalen -
Beth sydd yn digwydd os bydd y rhiant arall yn stopio talu trwy ein cytundeb teuluol?
Fel arfer, nid yw cytundebau teuluol yn gyfreithiol rhwym. Os bydd y rhiant arall yn stopio talu cynhaliaeth plant, gallwch siarad gyda hwy i ddarganfod pam maent wedi stopio eich talu a beth allwch ei wneud i'w cael i dalu eto. Os ydynt yn gwrthod ail ddechrau talu ac nad oes ateb arall, gallwch ein ffonio am ddim ar † ar 0800 988 0988.
Neu gallwch ofyn i'r CSA sefydlu taliadau cynhaliaeth plant ar eich rhan. Gall y CSA drefnu a chasglu taliadau ar eich rhan, a gallant orfodi'r taliadau'n gyfreithiol os ydynt yn stopio. Darllenwch fwy am beth yw fy opsiynau am gynhaliaeth plant?
Top y dudalen -
Sut gall newid yn ein amgylchiadau effeithio ar gynhaliaeth plant?
Gall amgylchiadau personol newid dros amser ac efallai byddwch am gynllunio am y newidiadau posibl hyn wrth drefnu cynhaliaeth plant.
Mae'r newidiadau all ddylanwadu ar drefniadau cynhaliaeth plant yn cynnwys:
- incwm y rhiant nad yw'n brif ofalwr dyddiol y plentyn
- faint o blant sydd gennych chi neu'r rhiant arall i'w cynnal
- faint o nosweithiau'r wythnos mae'r plentyn yn eu treulio gyda'r ddau ohonoch.
Os byddwch yn penderfynu gwneud cytundeb teuluol ar gyfer cynhaliaeth plant, gallwch dal newid hyn os bydd eich amgylchiadau chi neu'r rhiant arall yn newid – a bod y ddau ohonoch yn cytuno i newid y cytundeb. Os byddwch yn ei newid, dylech gofnodi eich cytundeb newydd fel bod y ddau ohonoch yn glir am beth rydych wedi cytuno arno. Gallwch ddefnyddio ein ffurflen cytundeb teuluol i wneud hyn. Mae'n bwysig i roi gwybod yn syth i'r rhiant arall os yw eich amgylchiadau yn newid, fel bod ganddynt amser i addasu.
Top y dudalen
†Rydym yn cynnig gwasanaeth galw'n ôl gan efallai bydd eich darparwr yn codi tâl os ydych yn defnyddio ffôn symudol.
