Ynglŷn ag Opsiynau Cynhaliaeth Plant

  • Pwy all ddefnyddio'r gwasanaeth Opsiynau Cynhaliaeth Plant?

    Rydym yn gweithio gyda'r ddau riant gan ein bod yn ddiduedd. Mae ein gwasanaeth hefyd ar gael yng Nghymru, Lloegr a'r Alban i deulu, ffrindiau, gwarcheidwaid, pobl broffesiynol ac unrhyw un arall sydd â diddordeb mewn cynhaliaeth plant.

    Top y dudalen
  • Sut gall Opsiynau Cynhaliaeth Plant fy helpu?

    Gallwn fynd a chi drwy'r opsiynau sydd ar gael i chi wrth drefnu cynhaliaeth plant. Gallwn roi gwybodaeth i chi fel y gallwch benderfynu os yw'ch trefniant presennol yn addas ar gyfer eich amgylchiadau. Rydym yn ddiduedd sy'n golygu nad ydym yn rhagfarnllyd tuag at y naill ffordd na'r llall o drefnu cynhaliaeth plant. Gallwn hefyd gynnig gwybodaeth ymarferol mewn meysydd yn ymwneud â chynhaliaeth plant, fel tai, cyflogaeth ac arian. Hefyd gallwn eich cyfeirio at gyrff arbenigol all gynnig cyngor i chi.

    Top y dudalen
  • Beth yw'r berthynas rhwng Opsiynau Cynhaliaeth Plant a'r CSA?

    Mae Opsiynau Cynhaliaeth Plant yn cynnig gwybodaeth ddiduedd a chymorth i helpu'r ddau riant i allu gwneud dewisiadau am gynhaliaeth plant. Y CSA yw'r gwasanaeth cynhaliaeth plant statudol ac mae'n un o'r opsiynau ar gyfer trefnu cynhaliaeth plant. Gallwch gysylltu â'r CSA os ydych am iddynt drefnu cynhaliaeth plant ar eich cyfer. Nid ydym yn trefnu cynhaliaeth plant ar eich rhan, ond gallwn roi gwybodaeth i chi am yr holl opsiynau sydd ar gael.

    Top y dudalen
  • All Opsiynau Cynhaliaeth Plant fy helpu i gael cyswllt gyda fy mhlentyn?

    Na. Mae cynhaliaeth plant yn fater sydd yn gwbl ar wahân i gyswllt gyda'ch plentyn. Os hoffech help i drefnu cyswllt, gallech siarad gyda CAFCASS. Mae ein tudalen cysylltiadau yn rhestru sefydliadau eraill all eich helpu gyda chyswllt.

    Top y dudalen
  • Beth gallaf ei wneud os wyf yn anfodlon gyda'r gwasanaeth a gaf gan Opsiynau Cynhaliaeth Plant?

    Rydym bob tro eisiau clywed am sut gallwn wella y gwasanaeth rydym yn ei roi i'n cwsmeriaid. Dyna pam rydym yn gofyn am bob math o adborth - yn cynnwys y positif a'r negyddol. Gallwch naill ai ein ffonio am ddim ar 0800 988 0988, neu gysyllwtch â ni, neu ysgrifennwch atom yn Child Maintenance Options, Selectapost 38, Sheffield S97 3FJ.

    Top y dudalen
  • Beth fydd Opsiynau Cynhaliaeth Plant yn gwneud gyda fy manylion?

    Yn Opsiynau Cynhaliaeth Plant rydym yn deall y pryderon sydd o amglych casglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. I ddod o hyd i ragor o wybodaeth, darllenwch ein polisi preifatrwydd.

    Top y dudalen

Rydym yn cynnig gwasanaeth galw'n ôl gan efallai bydd eich darparwr yn codi tâ l os ydych yn defnyddio ffôn symudol.