- Clywais fod cynhaliaeth plant yn newid. Beth yw'r newidiadau?
- Unwaith bydd gennym drefniant cynhaliaeth plant ar waith, oes modd i ni ei newid os nad yw'n gweithio?
- Os byddwn yn gwahanu, pryd dylwn i ddechrau trefnu cynhaliaeth?
- Wrth drefnu cynhaliaeth plant, fydd rhaid i mi rannu gwybodaeth bersonol?
- Wrth drefnu cynhaliaeth plant, a fyddaf yn gorfod delio gyda llwyth o waith papur?
- Os yw'r rhiant sydd ddim yn brif ofalwr dyddiol ar fudd-daliadau, a yw dal yn bosibl trefnu cynhaliaeth plant?
- Os wyf yn rhiant sy'n brif ofalwr dyddiol a fy mod yn cael budd-daliadau, allaf i wneud cais am gynhaliaeth plant hefyd?
- Beth fydd yn digwydd os bydd y rhiant sydd ddim yn brif ofalwr dyddiol yn gwrthod talu cynhaliaeth plant?
- A allaf drefnu cynhaliaeth plant heb gael cysylltiad gyda'r rhiant arall?
- Sut gallaf drefnu cynhaliaeth plant os nad wyf yn gwybod lle mae'r rhiant arall yn byw?
- Os byddaf yn talu cynhaliaeth plant, a fydd hyn yn sicrhau y caf weld fy mhlentyn?
- Mae ein plant yn treulio amser yn byw gyda'r ddau ohonom. Beth mae hyn yn golygu i gynhaliaeth plant?
- Ydy cynhaliaeth plant yn golygu dim ond arian a delir i'r rhiant sy'n brif ofalwr dyddiol?
- Hyd at ba oedran oes rhaid i mi dalu cynhaliaeth plant ar gyfer fy mhlentyn?
- Oes rhaid i mi gofnodi cynhaliaeth plant fel incwm trethadwy?
-
Clywais fod cynhaliaeth plant yn newid. Beth yw'r newidiadau?
Daeth y ddau newid cyntaf i rym ar 27 Hydref 2008. Yn bennaf, bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar rieni os yw'r rhiant sy'n brif ofalwr dyddiol am y plentyn yn cael budd-daliadau.
- Yn awr, mae gan bob rhiant yr hawl i ddewis o ddefnyddio'r CSA neu wneud cytundeb teuluol gyda'r rhiant arall. Yn flaenorol, bu rhaid i rieni â phrif ofal dyddiol o'r plentyn ac yn cael budd-daliadau ddefnyddio'r CSA i drefnu eu cynhaliaeth plant.
- Gall rhieni sydd â phrif ofal o ddydd i ddydd y plentyn gadw hyd at £20 yr wythnos o unrhyw gynhaliaeth plant maent yn ei gael cyn i hyn effeithio ar eu cynhaliaeth plant. Darllenwch fwy am sut mae cynhaliaeth plant yn effeithio ar fudd-daliadau a sut mae cynhaliaeth plant wedi newid.
-
Unwaith bydd gennym drefniant cynhaliaeth plant ar waith, oes modd i ni ei newid os nad yw'n gweithio?
Oes. Os oes gennych gytundeb teuluol, gallwch wastad ei newid os bydd eich amgylchiadau chi neu'r rhiant arall yn newid. Os byddwch yn penderfynu nad cytundeb teuluol yw'r opsiwn iawn i chi, gallwch ofyn i'r CSA roi trefniant ar waith i chi unrhyw bryd. Hefyd, o 27 Hydref 2008, bydd gan rieni sydd â phrif ofal dyddiol o'r plentyn yr hawl i dynnu allan o'u trefniant gyda'r CSA a gwneud cytundeb teuluol ynglŷn â chynhaliaeth plant gyda'r rhiant arall.
Top y dudalen -
Os byddwn yn gwahanu, pryd dylwn i ddechrau trefnu cynhaliaeth?
Dylech wneud popeth y gallwch i sicrhau bod trefniant cynhaliaeth effeithiol mewn grym ar gyfer eich plentyn cyn gynted â phosibl. Mae'n bwysig ar gyfer lles eich plentyn bod trefniant cynhaliaeth plant mewn grym.
Top y dudalen -
Wrth drefnu cynhaliaeth plant, fydd rhaid i mi rannu gwybodaeth bersonol?
Fel arfer, caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan gan ddefnyddio incwm y rhiant sydd ddim yn brif ofalwr dyddiol. Felly, os byddwch chi a'r rhiant arall yn penderfynu gwneud cytundeb teuluol, byddwch angen cael y wybodaeth hon wrth law er mwyn gallu dechrau trafod. Ond nid oes rhaid i chi adael i unrhyw un arall ymyrryd os nad ydych eisiau gwneud hynny.
Os byddwch yn penderfynu trefnu cynhaliaeth plant gan ddefnyddio'r CSA, bydd y CSA angen gwybod incwm y rhiant sydd ddim yn brif ofalwr dyddiol. Byddant hefyd angen gwybodaeth bersonol fel eich cyfeiriadau a manylion banc y rhiant fydd yn talu. Mae'r CSA yn ofalus iawn wrth ddiogelu gwybodaeth bersonol.
Top y dudalen -
Wrth drefnu cynhaliaeth plant, a fyddaf yn gorfod delio gyda llwyth o waith papur?
Dim o reidrwydd. Os byddwch yn dewis gwneud cytundeb teuluol ynglŷn â chynhaliaeth plant, efallai byddwch am baratoi pethau penodol am eich trafodaeth gyda'r rhiant arall, gweler Sut i wneud cytundeb teuluol. Unwaith y byddwch wedi cytuno ar sut i dalu cynhaliaeth plant, mae'n syniad da i gofnodi manylion eich cytundeb. Gallwch ddefnyddio ein Ffurflen cytundeb teuluol i wneud hynny.
Os byddwch yn penderfynu cael trefniant drwy'r CSA, gallwch ei drefnu dros y ffôn.
Top y dudalen -
Os yw'r rhiant sydd ddim yn brif ofalwr dyddiol ar fudd-daliadau, a yw dal yn bosibl trefnu cynhaliaeth plant?
Ydy. Gyda chytundeb teuluol, gallwch drefnu cynhaliaeth plant mewn ffordd mae'r ddau ohonoch yn cytuno arno. Gallai hynny olygu talu un swm pan fydd y rhiant sydd ddim yn brif ofalwr yn gweithio, a swm arall os yw'r rhiant sydd ddim yn brif ofalwr ar fudd-daliadau.
Gallwch dal ddewis gwneud trefniant drwy'r CSA os yw un or rhieni yn cael budd-daliadau. Bydd y CSA yn cyfrifo ffigwr cynhaliaeth ar eich cyfer, felly byddai angen iddynt ail gyfrifo cynhaliaeth plant os byddai incwm y rhiant sydd ddim yn brif ofalwr dyddiol yn newid yn sylweddol.
Gall ein cyfrifydd cynhaliaeth plant ar-lein roi syniad i chi o faint o gynhaliaeth plant y gallech fod yn ei dalu neu'n ei gael os byddai gennych drefniant drwy'r CSA.
Top y dudalen -
Os wyf yn rhiant sy'n brif ofalwr dyddiol a fy mod yn cael budd-daliadau, allaf i wneud cais am gynhaliaeth plant hefyd?
Gallwch. Mae faint o gynhaliaeth y gallech ei gael yn dibynnu ar incwm y rhiant sydd ddim yn brif ofalwr dyddiol. Os chi yw'r rhiant sy'n brif ofalwr dyddiol, gallwch gadw hyd at £20 yr wythnos o unrhyw gynhaliaeth plant maent yn ei chael cyn i hyn effeithio ar eich cynhaliaeth plant. Darllenwch ein tudalen am sut mae cynhaliaeth yn effeithio ar fudd-daliadau a hefyd yr adran am beth yw fy opsiynau ar gyfer trefnu cynhaliaeth plant?
Top y dudalen -
Beth fydd yn digwydd os bydd y rhiant sydd ddim yn brif ofalwr dyddiol yn gwrthod talu cynhaliaeth plant?
Gallwch ofyn i'r CSA roi trefniant cynhaliaeth plant ar waith. Gall y CSA gysylltu â'r rhiant arall a gwneud trefniant i gasglu cynhaliaeth plant ar eich rhan. Yna gall y CSA orfodi taliadau os bydd y rhiant arall yn gwrthod talu cynhaliaeth neu'n stopio talu.
Top y dudalen -
A allaf drefnu cynhaliaeth plant heb gael cysylltiad gyda'r rhiant arall?
Gallwch. Gofynnwch i'r CSA roi trefniant cynhaliaeth plant ar waith ar eich rhan, heb i chi orfod cysylltu âr rhiant arall. Bydd y CSA yn trefnu popeth gyda chi a'r rhiant arall yn gwbl ar wahân.
Top y dudalen -
Sut gallaf drefnu cynhaliaeth plant os nad wyf yn gwybod lle mae'r rhiant arall yn byw?
Gall y CSA geisio olrhain ble mae'r rhiant arall yn byw a gallant roi trefniant ar waith i gasglu cynhaliaeth plant ar eich rhan.
Top y dudalen -
Os byddaf yn talu cynhaliaeth plant, a fydd hyn yn sicrhau y caf weld fy mhlentyn?
Na. Mae cael cyswllt gyda'ch plentyn yn fater cwbl ar wahân i gynhaliaeth plant. Ar y cyfan, cydnabyddir yn helaeth fod cael cysylltiad gyda'r ddau riant yn cael effaith bositif iawn ar les plentyn (cyhyd y bod yn ddiogel i wneud hyn). Ond mae'n bwysig nad yw cyswllt fel hyn yn cael ei ddefnyddio fel ffordd o fargeinio am gynhaliaeth plant. Os chi yw'r rhiant nad sy'n brif ofalwr dyddiol i'r plentyn ac ni allwch weld eich plentyn, gallwch barhau i gyfrannu at eu magwraeth drwy dalu cynhaliaeth plant. Os hoffech gael help i drefnu cyswllt, yna dylech siarad gyda NACCC,CAFCASS, Resolution, National Family Mediation neu mae Centre for Separated Families hefyd yn rhoi gwybodaeth am gyswllt.
Top y dudalen -
Mae ein plant yn treulio amser yn byw gyda'r ddau ohonom. Beth mae hyn yn golygu i gynhaliaeth plant?
Golyga hyn fod y ddau ohonoch yn cyfrannu tuag at gostau byw'r plentyn a gall eich cytundeb cynhaliaeth plant adlewyrchu hynny. Gallwch ddefnyddio ein cyfrifydd cynhaliaeth plant gan roi'r nifer o nosweithiau mae eich plentyn yn aros dros nos gyda'r rhiant arall bob wythnos. Mae hyn yn effeithio ar y canlyniad a roddir gan y cyfrifydd.
Cofiwch mai dim ond amcangyfrif ffigwr bras mae ein cyfrifydd yn ei wneud er mwyn rhoi syniad i chi o faint o gynhaliaeth gallech ei gael neu ei dalu os byddai gennych gytundeb drwy'r CSA.
Top y dudalen -
Ydy cynhaliaeth plant yn golygu dim ond arian a delir i'r rhiant sy'n brif ofalwr dyddiol?
Nid bob tro. Mae'r rhan fwyaf o rieni yn talu cynhaliaeth plant fel swm rheolaidd o arian yn seiliedig ar incwm y rhiant sydd ddim yn brif ofalwr dyddiol. Gallech chi a'r rhiant arall ddewis cynnwys taliadau a wneir ar ffurf arall yn lle cynhaliaeth, ond fel arfer caiff y rhain eu talu yn ogystal â chynhaliaeth plant safonol. Drwy wneud 'taliadau yn lle cynhaliaeth', gall y rhiant sydd ddim yn brif ofalwr dyddiol dalu am bethau yn uniongyrchol, fel dillad, biliau a chostau ysgol.
Ond cofiwch nad yw'r CSA yn ystyried 'taliadau yn lle cynhaliaeth' wrth gyfrifor ffigwr cynhaliaeth plant.
Top y dudalen -
Hyd at ba oedran oes rhaid i mi dalu cynhaliaeth plant ar gyfer fy mhlentyn?
Os ydych yn dewis i wneud cytundeb teuluol ar gyfer cynhaliaeth plant, gallwch chi â'r rhiant arall drefnu hyn ym mha bynnag ffordd sy'n gweddu eich amgylchiadau.
Os byddwch yn dewis trefniant gan ddefnyddio'r CSA, telir cynhaliaeth plant hyd at i'r plentyn cyrraed 16 oed, neu hyd at iddynt gyrraed 19 oed os ydynt mewn addysg llawn amser (nad sy'n uwch na Safon Uwch neu gyfwerth).
Top y dudalen -
Oes rhaid i mi gofnodi cynhaliaeth plant fel incwm trethadwy?
Os ydych yn ystyried Treth Incwm neu'ch Datganiad Blynyddol, dylech siarad â Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC). Os ydych yn meddwl am gredydau treth, ni fydd taliadau cynhaliaeth plant yn effeithio ar eich dyfarniadcredyd treth. Os ydych yn meddwl am Gymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Lwfans Cymorth a Chyflogaeth yn seiliedig ar incwm cofiwch mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi ddweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith am unrhyw gynhaliaeth plant rydych yn ei chael. Dewch o hyd i fwy am sut mae cynhaliaeth plant yn effeithio ar fudd-daliadau.
Top y dudalen
