Os ydych yn ceisio cytuno ar swm ar gyfer eich cytundeb teuluol, gall ein cyfrifydd roi syniad i chi o faint y gallech ddisgwyl ei dalu neu ei gael.
Mae'r cyfrifiad yn seiliedig ar y rheolau sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd gan y CSA, felly gallwch ei ddefnyddio hefyd os ydych am wneud trefniadau drwy'r CSA neu'r llysoedd.
Nodwch:
Dim ond amcangyfrif yw'r ffigwr a roddir gan ein cyfrifydd. Os byddwch yn penderfynu trefnu cynhaliaeth plant drwy'r CSA, gallant gyfrifo ffigwr gwahanol, yn seiliedig ar y fformiwla statudol a gwybodaeth fwy manwl.
Nid yw'r cyfrifydd yma yn berthnasol i gynhaliaeth plant a gyfrifwyd gan y CSA cyn mis Mawrth 2003.
Mae rhai amgylchiadau penodol sydd ddim yn addas ar gyfer y cyfrifydd. Mae'r rhain yn cynnwys:
- os bydd cynhaliaeth plant yn cael ei rhannu rhwng dau riant neu fwy sy'n brif ofalwyr dyddiol
- amrywiadau ar gyfer amgylchiadau eithriadol.
* Pa fudd-daliadau gaiff eu hystyried gan y CSA
Bydd Credyd Treth Gwaith yn cael ei gyfrif fel rhan o incwm net os ydy enillion y rhiant sydd ddim yn brif ofalwr dyddiol yn uwch nag enillion eu partner. Os bydd y rhiant a'u partner yn enill yr un faint, byddwn yn cynnwys hanner y Credyd Treth Gwaith yn y cyfrifiad cynhaliaeth plant.






