Amdanom ni - Opsiynau Cynhaliaeth Plant

Mae Opsiynau Cynhaliaeth Plant yn cynnig gwybodaeth ddiduedd a chymorth i helpu bob rhiant i allu gwneud penderfyniadau am gynhaliaeth plant.

Mae'r ffaith ein bod yn ddiduedd yn golygu ein bod yma i helpu'r ddau riant ac nid ydym ym ochri gydag un ffordd yn unig o drefnu cynhaliaeth plant.

Rydym yma i'ch helpu:

  • os ydych yn gwahanu o'r rhiant arall neu nad ydych yn byw gyda hwy a bod angen i chi wneud trefniant chynhaliaeth plant
  • os ydych yn ystyried newid o gytundeb teuluol i drefniant drwy'r Asiantaeth Cynnal Plant, neu i'r gwrthwyneb
  • os yw eich cytundeb cynhaliaeth plant wedi methu neu ddim yn gweithio fel yr hoffech.

Gallwn hefyd gynnig gwybodaeth ymarferol am bethau sy'n gysylltiedig â chynhaliaeth plant fel tai, cyflogaeth ac arian. Er nad ydym yn arbenigo yn y pethau hyn, gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â chyrff arbenigol all gynnig help i chi.

Os ydych yn warchodwr, perthynas neu ffrind, neu os oes gennych ddiddordeb proffesiynol mewn cael mwy o wybodaeth am gynhaliaeth plant, efallai y gallwn eich helpu chi hefyd.

Rhedir y gwasanaeth Opsiynau Cynhaliaeth Plant gan y Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant. Mae'r Comisiwn yn Gorff Cyhoeddus Anadrannol sydd â chyfrifoldeb am gynhaliaeth plant ym Mhrydain Fawr.

Yr Asiantaeth Cynnal Plant (CSA) yw'r gwasanaeth statudol ar gyfer cynhaliaeth plant. Gallwn roi gwybodaeth i chi ynglŷn â'r CSA ohwerydd dyma un ffordd o drefnu cynhaliaeth plant.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Gofyn cwestiwn

Ffoniwch ar 0800 988 0988
Mae llinellau ar agor o 8 am i 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac o 9am i 4pm ar ddydd Sadwrn.
Neu, anfonwch e-bost atom