Trafod cynhaliaeth plant gyda'r rhiant arall – paratoi
Os gallwch drafod eich cynhaliaeth plant yn y ffordd iawn, byddwch yn fwy tebygol o ddod i gytundeb
fydd yn gweddu i bawb. Mae hyn yn golygu paratoi cyn i chi siarad a gwybod yn union beth ydych eisiau ei gael allan o'ch
trafodaeth gyda'r rhiant arall.
Wrth gwrs, nid yw'n bosib i rieni siarad gyda’i gilydd bob amser. Os nad ydych yn teimlo'n barod, pam ddim ein ffonio ni
i drafod ffyrdd eraill y gall y gwasanaeth Opsiynau eich helpu?
Pwrpas y canllaw yma
Bydd y canllaw yma yn eich helpu i chi dewis lle, pa bryd a sut rydych eisiau siarad gyda'r rhiant arall, yn ogystal
â threfnu pa faterion rydych eisiau eu trafod.
Beth all y canllaw ddim ei wneud
Ni all y canllaw roi syniadau i chi am sut i drafod na sut i drefnu eich sgwrs. Os mai dyma rydych eisiau, mae gwybodaeth ddefnyddiol am hyn ar gael yn ein taflen Ble i ddechrau.
Betn yw'r broses?
Mae'r canllaw yma ar gyfer eich paratoi i drafod. Mae’n cynnwys pedair prif elfen, ac unwaith byddwch wedi gweithio trwy'r canllaw dylech fod yn barod i drafod yn effeithiol. Gofynnwch i'r rhiant arall weithio drwy'r canllaw ar wahân fel
bod gan y ddau ohonoch ddarlun clir o'ch syniadau ac amcanion eich hunain cyn cychwyn trafod.
Yn gyntaf, printiwch y ffurflen cofnod personol
,
ac wedyn gweithio trwy'r pedair elfen. Gallwch
darllen trwy'r cwestiynau ar eich cyfrifiadur, neu lawr-lwytho PDF os yw’n well gennych.
Sut bynnag byddwch yn gweithio trwy'r cwestiynau, mae'n bwysig llenwi eich ffurflen cofnod personol fel bod gennych
gofnod o sut rydych am i’ch trafodaeth fynd ymlaen. Gallwch fynd a’r ffurflen yma i'ch trafodaeth i’ch atgoffa
am beth hoffech weld yn digwydd.
Felly eisteddwch lawr, ewch i’r adran gyntaf a cychwyn.
Cofiwch roi lles eich plant yn gyntaf.
- Ai trafod yn breifat sydd orau i chi?
- Mathau eraill o drafod
Ai trafod yn breifat yw’r peth gorau i chi?
Mae trafod fel hyn yn gweithio’n well pan fo’r ddau riant yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn datrys pethau yn deg. Ni fydd yn gweithio os cewch eich gorfodi i mewn i gytundeb drwg, neu os oes perygl o niwed i chi, felly rhaid i chi ystyried:
- Allwch chi roi anghenion eich plentyn yn gyntaf?
- Allwch chi anwybyddu eich teimladau am sut daeth eich perthynas i ben?
- A allwch fod yn agored ac onest gyda'ch gilydd?
- Allwch chi beidio ceisio cael y gorau ar eich gilydd?
Gallai trafod yn breifat weithio i chi os gallwch wneud yr hyn yn y cwestiynau yma. Ond os na allwch wneud hyn, efallai byddai ffordd arall o drafod yn fwy addas.
Dulliau trafod eraill
Cyfryngu: bydd y ddau ohonoch yn rhoi eich sylwadau gyda chyfryngwyr teulu yn bresennol, byddant wedi cael eu hyfforddi i helpu pobl i ddod i gytundeb. Mae hyn fel arfer yn cymryd rhwng dau a chwe sesiwn ac yn costio dros £100 y sesiwn.
Ond os byddwch yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, gall cyfryngu teulu weithiau fod ar gael am ddim.
Cyfraith gydweithredol: gall bob rhiant benodi cyfreithiwr teulu cydweithredol. Byddant yn rhoi
cyngor i chi ac yn eistedd gyda chi a’r rhiant arall tra’ch bod yn siarad wyneb yn wyneb. Mae hyn yn gallu arbed y straen a’r gost
o fynd i'r llys, ond gall dal fod yn ddrud gan y bydd y cyfreithwyr yn codi tâl fesul awr ac nid yw cymorth cyfreithiol ar gael bob tro.
Cewch fwy o wybodaeth am gyfryngu a chyrff cyfraith gydweithredol ar ein tudalen
mudiadau defnyddiol.