Cymorth ariannol gallech fod â hawl i'w gael

Mae'r wybodaeth Yr adran yma yn gywir hyd eithaf ein gywbodaeth. Fodd bynnag, gallai'r rheolau newid a dylech gysylltu â'r sefydliad perthnasol i ofyn am y wybodaeth diweddaraf ynglŷn â'r budd-daliadau gallech fod yn gymwys i'w gael.

 
Enw'r budd-dal Pwy sy'n gymwys Ble i gael mwy o
help a gwybodaeth

Nid yw'r tabl budd-daliadau hwn yn rhestr cyflawn o bob budd-dal sydd ar gael. Cysylltwch â'r Ganolfan Byd Gwaith i gael gwybod os ydych yn gymwys i gael unrhyw fudd-daliadau eraill.

Budd-dal Plant

Gallech fod yn gymwys os ydych yn gyfrifol am blentyn ac mae eich plentyn:

  • o dan 16 oed, neu
  • 16 neu 17 oed ac wedi gadael addysg neu hyfforddiant perthnasol ac wedi'u cofrestru am waith, addysg neu hyfforddiant gyda chorff wedi'i cymeradwyo, neu
  • o dan 20 oed ac mewn addysg neu hyfforddiant perthnasol.

Cyllid a Thollau EM
hmrc.gov.uk/cymraeg

Credyd Treth Gwaith

Gallech fod yn gymwys os ydych yn 16 oed neu throsodd ac:

  • rydych yn gweithio 16 awr yr wythnos neu fwy ac rydych naill ai
    • (a) yn gyfrifol am blentyn, neu
    • (b) mae anabledd gennych, neu
  • yn gweithio 30 awr neu fwy yr wythnos ac rydych yn 25 oed neu throsodd.

Fel rhan o Gredyd Treth Gwaith gallech fod yn gymwys am help tuag at gostau gofal plant cofrestredig neu ofal plant â chymeradwyaeth.

Cyllid a Thollau EM
hmrc.gov.uk/cymraeg

Credyd Treth Plant

Gallech fod yn gymwys os ydych yn gyfrifol am blentyn a bod eich plentyn:

  • o dan 16 oed, neu
  • 16 neu 17 oed, wedi gadael addysg neu hyfforddiant perthnasol ac wedi'u cofrestru am waith, addysg neu hyfforddiant gyda chorff wedi'i cymeradwyo, neu
  • o dan 20 oed ac mewn addysg neu hyfforddiant perthnasol.

Whether you qualify will depend on your earnings and circumstances.

Cyllid a Thollau EM
hmrc.gov.uk/cymraeg

Cymhorthdal Incwm

Os ydych yn rhiant unigol i blentyn, gallech fod yn gymwys i gael Cymhorthdal Incwm os yw eich plentyn ieuengaf o dan 16 oed.
O ddiwedd 2008, mae hyn yn berthnasol i rieni unigol â phlentyn o dan 12 oed.

Canolfan Byd Gwaith
canolfanbydgwaith.gov.uk

Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm

Os nad ydych yn gweithio neu'n gweithio llai na 16 awr yr wythnos ac yn chwilio am waith llawn amser.

Canolfan Byd Gwaith
canolfanbydgwaith.gov.uk

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm

Os nad ydych yn gweithio oherwydd iechyd gwael neu anabledd (i gwsmeriaid newydd o 27 Hydref 2008)

Canolfan Byd Gwaith
canolfanbydgwaith.gov.uk

Cinio ysgol am ddim Gallai eich plant gael cinio ysgol am ddim os ydynt yn mynd i ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru neu Loegr, neu ysgol awdurdod lleol yn yr Alban. Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i chi fod yn cael Credyd Treth Plant yn unig (nid Credyd Treth Gwaith) a rhaid i'ch incwm cartref fod yn £16,040 y flwyddyn neu'n llai.

Cysylltwch â'ch awdurdod addysg lleol.

Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA)

Yng Nhymru a Lloegr, gallech fod yn gymwys os ydych rhwng 16 a 18 oed ac yn parhau eich addysg ar gwrs neu hyfforddiant, a bod incwm yn eich cartref yn llai na £30,810 y flwyddyn.

Ceir amodau gwahanol yn yr Alban. Gweler gewfan EMA Scotland am fanylion.

EMA: www.direct.gov.uk/ema

Cymru a Lloegr: www.ema.direct.gov.uk

Yr Alban:www.emascotland.com

Presgriptiwn, triniaeth ddeintyddol a phrawf llygad am ddim

Gallech fod yn gymwys os ydych:

  • yn cael Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, neu
  • yn feichiog, neu
  • wedi rhoi genedigaeth yn y 12 mis diwethaf, neu
  • o dan 16 oed neu o dan 19 oed ac mewn addysg llawn amser.

Ar gyfer presgriptiynau am ddim, gweler y ffurflen ar gefn eich presgripsiwn.

Ar gyfer triniaeth am ddim neu brawf llygad ar gyfer plant, gofynnwch i'ch deintydd a c optegwr.

Budd-dal Tai

Gallech fod yn gymwys os ydych:

  • yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceiso Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Lwfans Cymorth a Chyflogaeth yn seiliedig ar incwm. Os felly, byddwch yn derbyn y swm uchaf o Fudd-dal Tai sydd ar gael (oni bai fod yna oedolyn annibynnol arall yn eich cartref), neu
  • ar incwm isel ac nid oes gennych fwy na £16,000 mewn cynilion neu asedau eraill ( gallwch gael cymorth tuag at eich rhent hyd yn oed os ydych yn gweithio).
  • Gweler y ffurflen gais yn eich pecyn cais ar gyfer Cymhorthdal Incwm/Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm/Lwfans Cymorth a Chyflogaeth yn seiliedig ar incwm. Efallai bydd eich cyngor lleol yn anfon ffurflen arall i chi gwblhau.
  • Cysylltwch â'ch adran budd-daliadau yn eich Awdurod Lleol (bydd y rhif ffôn yn eich llyfr ffôn lleol).
Budd-dal Treth Cyngor

Gallech fod yn gymwys os ydych:

  • yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Lwfans Cymorth a Chyflogaeth yn seiliedig ar incwm – os felly byddwch yn derbyn y swm uchaf sydd ar gael, neu
  • ar incwm isal a gyda dim mwy na £16,000 mewn cynilion neu asedau eraill (gallwch gael rhywfaint o help tuag at eich Treth Cyngor, hyd yn oed os ydych yn gweithio), neu
  • yn berson sengl – byddwch yn cael disgownt awtomatig o 25% ar eich Treth Cyngor, cyn belled mai dim ond chi yw'r unig oedolyn yn y tŷ.
  • Mae yna ffurflen gais yn eich pecyn cais ar gyfer Cymhorthdal Incwm/Lwfans Ceisio Gwaith/Lwfans Cymorth a Chyflogaeth yn seiliedig ar incwm. Efallai bydd eich awdurdod lleol yn anfon ffurflen arall i chi gwblhau.
  • Cysylltwch â'ch adran budd-daliadau yn eich Awdurod Lleol (bydd y rhif ffôn yn eich llyfr ffôn lleol).

Yn ôl i dop y dudalen