Arian a chyllid

Mae arian fel arfer, yn fwy o bryder pan fyddwch yn byw ar wahân neu'n gwahanu o'r person arall. Gall plant fod â risg o galedi pan fydd rhieni yn byw ar wahân. Gall hyn fod oherwydd mai un cyflog yn unig sydd yn dod i mewn i'r cartref neu bod rhaid i chi dalu am ddau dŷ yn hytrach nag un. A gall gymryd amser i sefydlu trefniad cynhaliaeth plant i ddarparu am eich plentyn.

Pan fyddwch chi neu'r rhiant arall yn poeni am arian, gall ddod yn fwy anodd i drefnu cynhaliaeth plant oherwydd gallai fod gennych bryderon eraill sydd yna'n cael effaith ar eich blaenioraethau. Dyma pam mae hi'n bwysig i ddelio ag unrhyw bryderon ariannol sydd gennych - fel y gallwch ganolbwyntio ar ddarpru am les eich plentyn.

Os ydych yn gwahanu neu'n cael ysgariad oddi wrth y rhiant arall, bydd rhaid i chi wneud trenfiadau i rannu eich asedau ac i ail drefnu eich cyllid. Os ydych yn byw ar wahân i'r rhiant arall, bydd rhaid i chi gadw rheolaeth dros cyllid eich hunan a chlustnodi eich arian fel y gallwch barhau i edrych ar ôl eich hunan a'ch plentyn.

Lawrlwythwch ein taflen Arian a chyllid [PDF 934KB] PDF i gael gwybodaeth am wneud penderfyniadau ariannol a ffynonellau all roi help i chi am gymorth ariannol mewn amgylchiadau anodd. Mae'r daflen yn pwysleisio'r pwysicrwydd o gadw rheolaeth dros ddyledion ac mae'n cynnig camau i ddelio â phroblemau dyled. Cewch weld sut i gynllunio'n ariannol am y dyfodol fel y gallwch leihau eich pryderon am arian.

Gall ymddangos yn anodd a chymhleth i ddelio â threfniadau ariannol. Ond gall deall eich opsiynau a gwybod sut i drefnu eich arian eich helpu i gynllunio ar eich cyfer chi a'ch plentyn gyda mwy o hyder.

Taflen Arian a chyllid

Lawr-lwytho [PDF 934KB]

Arian a chyllid PDF