Eich cartref - hawliau ac opsiynau

Gall gwneud trefniadau tai ar gyfer chi a'ch plentyn fod yn straen arnoch a gall y gyfraith am hawliau tai fod yn fater cymleth. Ond gall trefnu eich amgylchiadau tai alluogi i chi barhau gyda'ch bywyd a chanolbwyntio ar les eich plentyn.

Unwaith y bydd gennych rywle sefydlog efallai bydd yn haws i chi sefydlu trefniadau cynhaliaeth plant ar gyfer anghenion eich plentyn. Efallai bydd hefyd yn haws i drefnu cyswllt a phreswylfa ar gyfer eich plentyn.

Os ydych yn gwahanu neu'n ysgaru oddi wrth y rhiant arall, byddwch am gael gwybod beth yw'r sefyllfa cyfreithiol gyda'r cartref, a sut gallech rannu'r cartref rhyngoch. Os ydych yn byw ar wahân i'r rhiant arall, gallai deall eich opsiynau cartrefu eich helpu i drefnu cartref ar eich cyfer chi a'ch plentyn.

Lawr-lwythwch ein taflen Eich cartref - hawliau ac opsiynau [PDF 1.46MB] PDF i weld sut gallai'r gyfraith effeithio ar rhentu neu fod yn berchen ar gartref. Gallwch hefyd gael gwybodaeth am y gwahanol fathau o gynlluniau tai sydd ar gael lle gallech gael help gyda chostau tai a chamau i'w cymryd os credwch y gallech fod yn ddigartref.

Weithiau, gall fod yn anodd gwneud penderfyniadau ar gyfer chi a'ch plentyn, ac i wybod lle allwch fynd i gael cyngor am beth i'w wneud. Ond gall deall eich opsiynau a hawliau tai eich helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol yn fwy hyderus gan ganolbwyntio ar anghenion eich plentyn.

Taflen Eich cartref - hawliau a'ch opsiynau

Lawr-lwytho [PDF 1.46MB]

Eich cartref - hawliau ac opsiynau PDF

Cyrff defnyddiol

Shelter Cymru

Yn darparu cyngor a gwybodaeth am ddim i unrhyw un sydd â phroblem tai

Cartrefi cymunedol Cymru