Fel nain neu daid rydych bob amser eisiau'r gorau i'r rhai hynny sydd agosaf atoch. Ond, os yw teulu eich plentyn wedi gwahanu, mae'n anodd gwybod sut y gallwch helpu.
Beth bynnag fydd yn digwydd, mae'n hanfodol bod y plant yn parhau i gael y cymorth ariannol gan y rhiant sydd bellach ddim yn byw gyda nhw.
Mae neiniau a theidiau mewn sefyllfa dda i allu helpu eu hwyrion a wyresau. Maent yr un mor debygol i gael eu holi ynglŷn gwahanu a chynghorwyr proffesiynol, ac mae un mewn pedwar o deuluoedd yn cael help i ofalu am blant gan neiniau a theidiau.
Sut gall y canllaw yma fy helpu?
Mae'r canllaw yma yn llawn o wybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu chi i helpu eich teulu. Bydd yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i chi, straeon llwyddiant a chwestiynau a ofynnir yn aml. Mae'n arbennig o bwysig nawr gan fod llawer o'r rheolau ynglŷn â chynhaliaeth plant wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae cynhaliaeth plant yn bwnc sensitif ac mae'n bwysig peidio â chymryd ochrau. Felly defnyddiwch y wybodaeth hon er mwyn cynnig help ymarferol i'ch mab neu'ch merch, a sicrhau bod eich wyrion a wyresau yn cael y gynhaliaeth sydd ei hangen arnynt.

