Os ydych yn byw ar wahân i'r rhiant arall neu eisioes wedi gwahanu, efallai byddwch yn bryderus am sut y gallai hyn effeithio ar eich gwaith presenol. Efallai byddwch yn ystyried sut y gallwch gyfuno gwaith a magu plant a sut gallwch ddarparu'n ariannol ar gyfer eich plentyn - os ydych yn byw gyda hwy ai peidio.
Byddai o gymorth i chi petaech yn deall beth yw eich opsiynau a'ch hawliau gwaith. Bydd hyn yn ei wneud yn haws i chi i drefnu eich arian a chanolbwyntio ar drefnu cynhaliaeth plant ar gyfer eich plentyn.
Os ydych yn byw ar wahân i'ch plentyn, efallai byddwch am ddysgu am drefnu oriau gwaith hyblyg fel y gallwch dreulio mwy o amser gyda'ch plentyn. Os ydych yn gwahanu o'r rhiant arall, efallai byddwch am ddod o hyd i sut gallwch fynd yn ôl i'r gwaith neu sut i ddechrau gweithio am y tro cyntaf.
Hawliau a chyfrifoldebau gwaith [PDF 468KB]
i gael gwybodaeth ar gymryd absenoldeb
tadolaeth neu famolaeth. Mae'r daflen yn egluro'r gwahanol fath o gefnogaeth y gallai fod gennych hawl i'w gael fel
rhiant, a ble gallwch fynd i wneud cais am fudd-daliadau penodol. Gallwch hefyd ddod o hyd i ble i fynd am help
am gymorth i ddod o hyd i swydd.
Gall yr ymwybyddiaeth bod angen i chi ddod ag arian i mewn i gynnal eich plentyn eich rhoi o dan straen fel rhiant. Ond gall deall eich hawliau ac opsiynau gwaith eich helpu i gynllunio ar gyfer chi a'ch plentyn yn fwy hyderus.

