Mae'r dudalen hon ar gyfer unrhyw un sydd wedi, neu sydd yn dioddef o drais yn y cartref. Er nad ydym yn arbenigwyr yn y maes hwn, rydym yn gwybod y gallai trais yn y cartref fod yn reswm i rieni wahanu a gallai effeithio ar eich emosiynau chi a'ch plentyn.
Trais yn y cartref yw pan fydd person yn ymddwyn mewn ffordd fygythiol, treisgar, neu sarhaus tuag at aelod o'r teulu, partner neu gyn-bartner. Gallai'r trais fod yn seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol neu emosiynol.
Os ydych yn dioddef o drais yn y cartref nid ydych ar eich pen eich hyn. Mae trais yn y cartref yn cyfrif am bron i chwarter o bob trosedd treisgar yng Nghymru a Lloegr.
Gallwch gysylltu â'r sefydliadau arbennigol a restrir yma:
- Llinell Gymorth Cenedlaethol Trais yn y Cartref, 0808 200 0247 www.refuge.org.uk ac www.womensaid.org.uk
- Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref Cymru, 0808 801 0800 www.wdah.org
- Llinell Gymorth Trais yn y Cartref yr Alban, 0800 027 1234 www.scottishwomensaid.org.uk
- Respect Llinell Gymorth i Ddynion (help i ddynion sy'n dioddef), 0808 801 0327 www.mensadviceline.org.uk
Mae cymorth pellach ar gael:
- Gallai eich meddyg teulu eich cyfeirio chi a'ch plentyn at sefydliad lleol am gefnogaeth emosiynol neu seicolegol.
- Mae Uned Diogelwch Cymunedol ar gael ym mhob gorsaf heddlu.
- Efallai bydd gan eich awdurdod lleol ddyletswydd i ddarparu llety brys ar eich cyfer.
- Mae gan Gwasanaethau Cymdeithasol ddyletswydd i helpu unrhyw blentyn sydd angen llety brys.
- Gall y llysoedd wneud gorchymyn llys i gadw'r camdriniwr draw.
