Beth yw eich opsiynau cynhaliaeth?

Y ffordd cyflymaf a hwylusaf i drefnu cynhaliaeth plant yw i chi a’r rhiant arall wneud trefniadau rhwng eich gilydd. Nawr, mae mwy na hanner miliwn o blant yn y DU yn elwa o’r math yma o gytundeb teuluol.

Gallwch chi a’r rhiant arall weithio gyda’ch gilydd i wneud trefniadau rhwng eich gilydd sy’n gweddu i’ch amgylchiadau chi. Gallwch gytuno ar y swm a pha mor aml y caiff taliadau eu gwneud, a gallwch ddewis cynnwys mathau eraill o gynhaliaeth, er enghraifft, talu am wisg ysgol ac ati.

Os na allwch wneud cytundeb teuluol, gallwch dal ddefnyddio’r CSA. Gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth o’r enw Cynhaliaeth Uniongyrchol, ble bydd y CSA yn gweithio allan faint ddylai gael ei dalu a pha mor aml, ond chi fydd yn trefnu a rheoli’r taliadau (gyda’r rhiant arall).

Gallwch hefyd ddefnyddio’r llysoedd, ond gall hyn olygu cryn amser ac arian. Yng Nghymru a Lloegr, gall llys newid cytundeb teuluol i Orchymyn Cydsynio sy’n gyfreithiol rhwym. Yn yr Alban, gall gael ei gofrestru i’w wneud yn ‘Gofnod o Gytundeb’ (Minute of Agreement) sy’n gyfreithiol rhwym.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Gofyn cwestiwn

Ffoniwch ar 0800 988 0988
Mae llinellau ar agor o 8 am i 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac o 9am i 4pm ar ddydd Sadwrn.
Neu, anfonwch e-bost atom