Mae cytundeb teuluol yn gyflym ac yn hwylus, felly gallwch gael y taliadau’n llifo ar unwaith.
Mae’n gwbl breifat. Ni fydd unrhyw un arall angen ymyrryd yn eich busnes.
Mae’n hyblyg, gallwch wneud trefniadau arbennig neu newidiadau ar unrhyw bryd, yn sydyn ac yn hawdd. Gallwch hefyd fod yn hyblyg gyda thaliadau – pryd, sut a pha daliadau ddylai gael eu gwneud.
Gallwch gynnwys pethau heblaw arian - os ydych yn awyddus i gynnwys pethau fel rhannu gofal neu daliadau am wisg ysgol neu docynnau bws.
Os gallwch osgoi gorfod defnyddio cyfreithwyr neu’r CSA, efallai bydd yn haws i chi gadw pethau yn gyfeillgar. Gall fod yn ffordd dda i ail sefydlu ymddiriedolaeth at y dyfodol.
Os gallwch weithio gyda’ch gilydd i drefnu cynhaliaeth plant, gallai hyn eich helpu i aros yn rhan o fywyd eich plentyn.
Mae pobol yn tueddu i barchu a chadw at eu haddewidion eu hunain. Pan fydd y ddau riant yn cytuno ar bethau gyda’i gilydd, mae taliadau yn fwy tebygol o gael eu gwneud yn llawn ac ar amser.
Gallwch wneud cytundeb teuluol hyd yn oed os yw’ch cynbartner yn byw neu’n symud dramor. Nid yw wastad yn bosib gwneud hynny gyda threfniadau cynhaliaeth eraill.
Nid yw’n gyfreithiol rhwym. Os nad yw’n llwyddo, gallwch geisio rhywbeth arall. Neu gallwn siarad gyda chi am opsiynau eraill, gan gynnwys gofyn i’r CSA agor achos.
Mae’r tabl yma yn dangos y prif wahaniaethau rhwng cytundeb teuluol ag achos gyda’r CSA.
Cewch fwy o wybodaeth am bob opsiwn wrth ddarllen am gytundebau teuluol ac achos gyda’r CSA .
