Beth yw cynhaliaeth plant?

Cymorth ariannol rheolaidd a dibynadwy yw cynhaliaeth plant sy'n gallu helpu tuag at gostau byw'r plentyn o ddydd i ddydd. Bydd y rhiant nad yw'n gofalu am y plentyn o ddydd i ddydd yn talu cynhaliaeth plant i'r rhiant arall.

Gall cynhaliaeth plant wneud gwahaniaeth go iawn i blant a rhoi’r dechrau gorau bosib mewn bywyd iddynt drwy helpu i dalu am bethau fel dillad, bwyd a phethau eraill hanfodol. Gallai hefyd helpu’r ddau riant i chwarae rhan ym mywydau eu plant.

Y ffordd gyflymaf a hwylusaf i drefnu cynhaliaeth plant yw i chi a’r rhiant arall wneud trefniadau rhwng eich gilydd. Mae mwy na hanner miliwn o blant yn y DU bellach yn elwa o’r math yma o gytundeb teuluol.

Trwy gytundeb teuluol, gallwch chi a’r rhiant arall wneud trefniadau yn y ffordd sy’n gweddu orau i’ch amgylchiadau chi, gan ddefnyddio pobl eraill neu gyda help eich teulu, ffrindiau, neu berson proffesiynol yn y maes yma. Nid oes rhaid canolbwyntio ar arian yn unig – os bydd y ddau ohonoch yn cytuno, gall gynnwys mathau eraill o gynhaliaeth, er enghraifft, talu am wisg ysgol.

Yn anffodus, nid yw cytundeb teuluol yn addas i bawb. Os nad ydych yn gwybod ble mae’r rhiant arall, neu os oes unrhyw hanes o drais yn y cartref, efallai y bydd angen i chi edrych ar opsiynau eraill. Er enghraifft, gallwch dal wneud cytundeb drwy ddefnyddio’r CSA. Gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth o’r enw Cynhaliaeth Uniongyrchol, ble bydd y CSA yn gweithio allan faint ddylai gael ei dalu a pha mor aml, ond chi fydd yn trefnu ac yn rheoli eich taliadau eich hunain (gyda’r rhiant arall).

Rydym yma i’ch helpu i ddeall cynhaliaeth plant a’ch cynorthwyo wrth wneud trefniadau.

Gallwch lawr-lwytho ein Canllaw ar ble i ddechrau [PDF 850KB] PDF i gael gwybodaeth am:

  • yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer trefnu cynhaliaeth plant
  • sut i ddechrau gwneud trefniadau cynhaliaeth plant gan gynnwys cytundeb teuluol
  • sut gallwch drin a thrafod gyda'r rhiant arall
  • sut i weithio allan faint o gynhaliaeth plant gallwch ei dalu neu ei gael
  • camau ymarferol a mudiadau defnyddiol a all eich helpu

Gallwch ddarllen mwy am gynhaliaeth plant a'ch opsiynau yn ein hadran Cwestiwn ac Ateb