Rhyddid Gwybodaeth

Mae'r dudalen yma yn egluro ein prosesau a pholisi Rhyddid Gwybodaeth.

Mae Opsiynau Cynhaliaeth Plant yn wasanaeth a ddarperir gan Y Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant. Y Comisiwn yw'r corff cyhoeddus anadrannol sy'n gyfrifol am gynhaliaeth plant ym Mhrydain Fawr.

Rhyddid Gwybodaeth

Gwybodaeth rydym yn ei chyhoeddi’n barod

Gwybodaeth bersonol

Sut i wneud cais

A gaiff y Comisiwn wrthod roi gwybodaeth?

Os nad ydych yn fodlon gyda'n penderfyniad

Cysylltiadau perthnasol

Rhyddid Gwybodaeth

Rhyddid Gwybodaeth – Beth yw hyn ?

Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi'r hawl i unrhyw berson gael gweld y wybodaeth sydd gan awdurdod cyhoeddus amdanynt. Mae hyn yn cynnwys cyrff anadrannol cyhoeddus gan gynnwys y Comisiwn. Felly, mae hefyd yn berthnasol i'r wybodaeth sydd gan y gwasanaeth Opsiynau Cynhaliaeth Plant yn eu meddiant.

Gellir cael mwy o wybodaeth am ddarpariaethau’r Ddeddf ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Top y dudalen

Beth yw'r Hawliau Mynediad?

Gall unrhyw un, boed yn unigolyn neu’n fudiad corfforaethol fel cwmni preifat, wneud cais i gael mynediad i unrhyw wybodaeth gofnodedig sydd gan y Comisiwn. Golyga hyn bod bosib y gallai'r holl wybodaeth sydd gan y Comisiwn gael ei hystyried ar gyfer cael eu rhyddhau, waeth ym mha ffordd a gofnodwyd gennym, er enghraifft: ffeiliau papur cofrestredig; dogfennau electronig; nodiadur neu gasgliadau amrywiol o bapur ac ati. Nid oes angen i chi rhoi rheswm dros eich cais.

O dan y Ddeddf mae hefyd yn ofynnol i roi gwybod i chi os yw'r wybodaeth rydych eisiau yn bodoli neu beidio, ond mae hyn yn destun rhai eithriadau penodol.

Gallwch benodi sut hoffech gael y wybodaeth, er enghraifft: copi; crynodeb; trwy lythyr neu e-bost. Bydd y Comisiwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais.

Mae'r Ddeddf yn gwbl ôl-weithredol. Golyga hyn y gallwch ofyn am unrhyw wybodaeth sydd gan y Comisiwn, waeth ba mor hen yw’r wybodaeth honno. Er enghraifft, gallwch wneud cais o dan y Ddeddf am wybodaeth mewn dogfen a gafodd ei chreu yn 1999 er na ddaeth y Ddeddf i rym tan 1af Ionawr 2005.

Top y dudalen

Gwybodaeth rydym yn ei chyhoeddi’n barod

Gallai’r wybodaeth rydych yn chwilio amdani fod wedi cael ei chyhoeddi’n barod. Gwnewch yn sicr drwy edrych mewn ffynonellau gwybodaeth eraill sydd ar gael i chi cyn gwneud cais.

Chwiliwch ein gwefannau am y wybodaeth

Mae llawer o wybodaeth ar gael yn baros ar wefan y Comisiwn ac ar y wefan yma.

Edrychwch ar Gynllun Cyhoeddi'r Comisiwn

Mae Cynllun Cyhoeddi'r Comisiwn yn rhannu’r wybodaeth mewn categorïau ac yn dweud wrthych ble i gael hyd i’r wybodaeth.

Edrychwch ar Ddatguddiadau Rhyddid Gwybodaeth y Comisiwn

Yn adran Datguddiadau Rhyddid Gwybodaeth y Comisiwn gallwch gael gwybodaeth o ddiddordeb cyffredinol sydd wedi cael ei datguddio’n barod gan y Comisiwn o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Top y dudalen

Gwybodaeth bersonol

A allaf wneud cais am wybodaeth amdanaf i neu fy achos?

Nid yw’r hawl o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ymestyn at ddarparu gwybodaeth bersonol y gallai fod gan y Comisiwn amdanoch. Dylai ceisiadau o'r fath gael eu gwneud o dan ddarpariaethau’r Ddeddf Diogelu Data 1998.

Mae'r Ddeddf Diogelu Data yn caniatàu i chi wneud cais am y wybodaeth bersonol mae'r Comisiwn yn ei dal amdanoch ar ei systemau cyfrifiadurol ac mewn rhai cofnodion papur.

Sut gallaf gael copi o'r wybodaeth a ddelir amdanaf gan wasanaeth Opsiynau Cynhaliaeth Plant y Comisiwn?

Cewch wybod sut mae'r gwasanaeth Opsiynau Cynhaliaeth Plant yn casglu, storio a rhyddhau gwybodaeth bersonol .

Top y dudalen

Sut i wneud cais

Ceisiadau arferol am wybodaeth tu allan i'n proses Rhyddid Gwybodaeth

Os ydych yn gwybod pa ddogfennau neu wybodaeth rydych eisiau efallai y gallech eu cael drwy gysylltu'n uniongyrchol gyda’r gwasanaeth Opsiynau Cynhaliaeth Plant heb orfod defnyddio ein proses Rhyddid Gwybodaeth. Er enghraifft, efallai byddwch eisiau copi o ddogfen sydd gan asiant Opsiynau Cynhaliaeth plant.

Cysylltwch gyda’r gwasanaeth Opsiynau Cynhaliaeth Plant

Top y dudalen

Sut mae gwneud cais am Ryddid Gwybodaeth ?

Os na ellir ateb eich cais yn un o’r ffyrdd a ddisgrifir uchod, gallwch ysgrifennu i:

Child Maintenance and Enforcement Commission
Freedom of Information Act Focal Point
PO Box 61791
London
SW1P 9NT.

Fel arall, anfonwch e-bost atom yn FOI.FocalPoint@childmaintenance.gsi.gov.uk.

Dylai eich cais:

  • bod yn ysgrifenedig;
  • disgrifio'n glir y wybodaeth rydych eisiau; a
  • cynnwys eich enw a naill ai eich cyfeiriad post neu e-bost ar gyfer unrhyw ohebu.

Dylai ymateb gael ei anfon atoch o fewn 20 diwrnod gwaith, oni bai bod angen i ni gysylltu â chi er mwyn cael mwy o wybodaeth am eich cais, neu fod rhaid ystyried profi’r budd i’r cyhoedd.

Top y dudalen

A gaiff y Comisiwn wrthod roi gwybodaeth ?

Caiff, mewn amgylchiadau penodol. Mae'r wybodaeth ganlynol yn egluro'r amgylchiadau yma.

Gwybodaeth wedi'i heithrio

Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn cynnwys sawl eithriad i'r hawl i gael mynediad i wybodaeth. Rhaid i'r eithriadau hyn gael eu hystyried mewn dau ran. Y rhain yw:

  • os yw'r eithriad yn berthnasol i bob rhan o'r wybodaeth y mae'r cais amdano ac, os felly,
  • os yw o fwy o fudd i’r cyhoedd i ryddhau'r wybodaeth yn hytrach na pheidio.

Os, wrth bwyso a mesur y budd i’r cyhoedd, y penderfynir y dylid rhyddhau’r wybodaeth, bydd gwybodaeth sydd wedi'i heithrio dal yn cael ei rhyddhau. Fodd bynnag, mae rhai mathau o wybodaeth (er enghraifft data personol yr ymgeisydd) yn dod o dan orchudd eithriadau "llwyr", sy'n golygu na all profi’r budd i’r cyhoedd gael ei gymhwyso a chaiff y wybodaeth ei chadw heb gael ei rhyddhau.

Ble na allwn ryddhau gwybodaeth, byddwn yn eich hysbysu am ba eithriad sy'n berthnasol a pham.

Ceir canllawiau am eithriadau ar wefan Y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Top y dudalen

Ceisiadau sydd tu hwnt i’r terfyn cost addas

Nid yw'r Comisiwn yn codi ffi am ateb ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Fodd bynnag, nid oes rhaid i ni roi’r wybodaeth i chi os bydd y gost o wneud hynny'n anaddas ac yn uwch na'r terfyn.

Mae'r terfyn priodol ar gyfer y Comisiwn wedi'i osod yn Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data (Terfynau a Ffioedd Priodol) 2004 fel £450. Mae hyn yn cynrychioli'r gost amcamgyfrifol o un person yn treulio 2.25 diwrnod gwaith yn penderfynu os yw'r wybodaeth gan y Comisiwn, ac yna'n lleoli a chael gafael ar y wybodaeth.

Os na allwn roi’r wybodaeth i chi oherwydd bod hynny yn rhy gostus, ysgrifennwn atoch i ddweud wrthych. Gallwn hefyd ofyn i chi leihau eich cais er mwyn dod ag ef o fewn y terfyn cost.

Top y dudalen

Gwneud eich cais yn eglur

Mae'n bwysig bod eich cais yn cynnwys disgrifiad clir o'r wybodaeth rydych eisiau er mwyn ein galluogi ni i adnabod yr union wybodaeth rydych eisiau ac i osgoi gwrthod rhoi gwybodaeth ar sail costau afresymol. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys nodi’r cyfnod amser yr hoffech i’r wybodaeth gwmpasu.

Os nad yw eich cais yn glir, byddwn yn gofyn i chi ei egluro. Unwaith cawn eich eglurhad, fel arfer, bydd ein hymateb yn cael ei anfon atoch o fewn 20 diwrnod gwaith.

Top y dudalen

Gwybodaeth sydd ddim yn cael ei chadw gan y Comisiwn

Efallai nad yw’r Comisiwn yn dal y wybodaeth rydych wedi gwneud cais amdani, os felly, byddwn yn dweud wrthych o fewn 20 diwrnod.

Os nad ydy’r wybodaeth rydych wedi gwneud cais amdani gennym ond bod gennym reswm i gredu bod y wybodaeth gan awdurdod cyhoeddus arall, byddwn yn dweud wrthych sut i gysylltu â'r awdurdod hwnnw i ofyn am y wybodaeth.

Top y dudalen

Os nad ydych yn fodlon gyda'n penderfyniad

Beth sy'n digwydd os nad wyf yn fodlon gyda'r ymateb?

Os nad ydych yn fodlon gyda'n hymateb neu sut rydym wedi delio gyda’ch cais, gallwch ofyn am adolygiad mewnol trwy ysgrifennu i:

Child Maintenance and Enforcement Commission
Freedom of Information Act Focal Point
PO Box 61791
London
SW1P 9NT.

Fel arall, anfonwch e-bost atom yn FOI.FocalPoint@childmaintenance.gsi.gov.uk.

Dylai unrhyw gais am adolygiad gael ei gyflwyno o fewn deufis o ddyddiad yr ymateb.

Caiff yr adolygiad ei gynnal gan swyddog uwch, nad oedd yn rhan o grynhoi'r ymateb gwreiddiol. Bydd yn archwilio'r penderfyniad a wnaed yn yr ymateb gwreiddiol ac yn penderfynu os defnyddiwyd y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn y modd cywir. Os yw'n berthnasol, gall hyn gynnwys y defnydd a wnaed o'r eithriadau ac o brofi’r budd i’r cyhoedd. Yn ogystal, bydd yr adolygiad hefyd yn ystyried y sylwadau a wneir gennych yn eich cais am adolygiad.

Cewch eich hysbysu’n ysgrifenedig am benderfyniad yr adolygwr. Gallai hyn fod i ategu neu wrthdroi’r penderfyniad gwreiddiol. Bydd unrhyw wybodaeth fyddwn yn teimlo y gallwn ei darparu yn cael ei anfon gyda'n hymateb

Top y dudalen

Beth os byddaf dal yn anfodlon?

Os nad ydych yn fodlon gyda chanlyniad yr adolygiad mewnol gallwch wneud cais i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad.

Mae'r Comisiynydd Gwybodaeth yn gweithredu'n annibynnol, yn cael ei benodi gan Ei Mawrhydi’r Frenhines ac yn adrodd yn uniongyrchol i'r Senedd. Mae hawl gan y Comisiynydd i weld yr holl bapurau sy'n berthnasol i'ch cais a phenderfynu os yw ein penderfyniad yn cwrdd ag anghenion y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

Gallwch gysylltu gyda'r Comisiynydd Gwybodaeth yn:

The Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF.

Top y dudalen

Cysylltiadau perthnasol

Ystadegau Rhyddid Gwybodaeth

Mae ystadegau ar sut mae'r Comisiwn yn gweithredu'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn cael eu hadrodd yn chwarterol i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ac yn cael eu cyhoeddi ar eu gwefan.

Mwy o wybodaeth

Mae mwy o wybodaeth ynglŷn â Rhyddid Gwybodaeth ar gael ar wefannau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Top y dudalen